Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Penderfyniadau anodd i ddod i gynghorwyr Sir y Fflint
Published: 12/12/2014
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried pecyn o gynigion arbed costau ar
draws ystod eang o wasanaethaur cyngor ddydd Mawrth 16 Rhagfyr wrth iddynt
geisio canfod lefel digynsail o arbedion effeithlonrwydd blynyddol o £16.4
miliwn oherwydd gostyngiad o 3.4 y cant yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Maer gyllideb arfaethedig ar gyfer 2015/16 yn adeiladu ar y strategaeth
barhaus i leihau costau rheoli a chostau mewnol wrth ddiogelur gwasanaethau
lleol sydd â mwyaf o flaenoriaeth ac sydd fwyaf hanfodol.
Oherwydd maint yr her ariannol, maer Cyngor yn cynnig cynlluniau mwy
uchelgeisiol i wneud arbedion effeithlonrwydd mewnol, ailgynllunio strwythurau
rheoli a sicrhau gostyngiadau graddol yn nifer y bobl y maen eu cyflogi.
Mae llawer o gynigion y gyllideb nad ydynt yn cael unrhyw effaith uniongyrchol
ar y cyhoedd, ond bydd nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus penodol yn dilyn ar rai
cynigion lle bydd effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth.
Mae pecyn y gyllideb gyffredinol o fesurau a chynigion yn cyfuno:
· opsiynau cyllido corfforaethol, e.e. sut i reoli chwyddiant
· cynigion cynllun busnes ar lefel portffolio
· adolygu pwysau ar gyllidebau portffolio
· cynyddu faint o incwm a gynhyrchir
· adolygu maint a chostau’r gweithlu
· adolygu lefelau treth y cyngor
· adolygu’n llawn cronfeydd wrth gefn a balansau
Yn gynharach eleni, lansiodd y Cyngor Sgwrs Fawr am y Gyllideb’ i godi
ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gyllideb ar heriau ariannol sylweddol y maen eu
hwynebu ac i fesur lefel y derbyniad ymhlith y cyhoedd o rai or penderfyniadau
anodd sydd on blaenau.
Bydd pobl yn gallu rhoi eu hadborth am gynigion y gyllideb ar wefan y Cyngor.
Bydd tanysgrifwyr i e-gylchgrawn y Cyngor, Eich Cyngor, hefyd yn derbyn y
wybodaeth am y gyllideb yn y rhifyn diweddaraf. Bydd Pwyllgorau Trosolwg a
Chraffu’r Cyngor yn ystyried yr adborth yn ystod mis Ionawr. Bydd y
cyfarfodydd hyn syn agored ir cyhoedd yn cael eu cynnal ar:
Adnoddau Corfforaethol, Dydd Iau 22 Ionawr
Amgylchedd, Dydd Gwener 23 Ionawr
Tai, Dydd Gwener 23 Ionawr
Dysgu Gydol Oes, Dydd Llun 26 Ionawr
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Dydd Llun 26 Ionawr
Bydd amseroedd dechrau a rhaglenni yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor, saith
diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod.
Bydd penderfyniad terfynol ar gynigion y gyllideb yn cael ei wneud gan y Cyngor
Sir llawn ym mis Chwefror.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton:
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwn eisoes wedi cyflawni gwerth £22m o
arbedion drwy leihau costau rheoli a gweithredu a byddwn yn parhau i chwilio am
arbedion effeithlonrwydd pellach yn y meysydd hyn. Mae llywodraeth leol wedi
dangos ei fod yn un or mathau mwyaf arloesol ac effeithlon o wasanaeth
cyhoeddus yng Nghymru, ond daw adeg pan fydd cynaliadwyedd ein gwasanaethau yn
cael ei gwestiynu. Rydym yn awr yn gorfod blaenoriaethu rhai gwasanaethau dros
eraill, lleihau neu hyd yn oed atal gwasanaethau. Rydym wedi craffu ar ein holl
wasanaethau gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau
hamdden, llyfrgelloedd a chasgliadau gwastraff.
“Byddwn yn ymdrechu i leihaur effaith ar y gwasanaethau rheng flaen, ond maen
anochel y bydd yna effaith mewn rhai meysydd.”