Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Archwiliwch eich Archifdy
Published: 06/11/2014
Fel rhan o ymgyrch genedlaethol Archwiliwch eich Archifdy, mae Archifdy Sir y
Fflint wedi creu arddangosfa sy’n ymroddedig i ddynion Sir y Fflint a
wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd yr arddangosfa ar agor yn yr Archifdy, Lôn y Rheithordy ym Mhenarlâg o 10
- 14 Tachwedd a bydd yn cynnwys gweithdy o dan y teitl Olrhain Eich Cyndadau
o’r Rhyfel Byd Cyntaf ddydd Mercher 12 Tachwedd o 2.30pm tan 3.30pm. Bydd y
gweithdy yn esbonio sut i ymchwilio i hanes milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf drwy
ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol ac oddi ar y we.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid neilltuo lle – cysylltwch â
archives@flintshire.gov.uk neu 01244 532364.
Nodyn i Olygyddion
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ymgyrch Archwiliwch eich Archifdy a arweinir gan
y Gymdeithas Archifau a Chofnodion a’r Archifdy Cenedlaethol. Yng Nghymru,
mae’r ymgyrch yn ffurfio rhan o Strategaeth Farchnata Genedlaethol Llywodraeth
Cymru ar gyfer Archifdai 2011-14.