Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Annog trigolion i ddefnyddio eu Cymraeg wrth gael mynediad at wasanaethau’r Cyngor

Published: 24/11/2026

Anogir siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio eu Cymraeg yn eu bywydau bob dydd ac wrth gael mynediad at wasanaethau’r Cyngor, fel rhan o ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ eleni.

Wedi’i arwain gan Gomisiynydd y Gymraeg, mae’r ymgyrch flynyddol yn annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg ble bynnag y gallent, yn eu cartref, gwaith, wrth gymdeithasu neu wrth gysylltu â sefydliadau cyhoeddus.

Mae’r ymgyrch hefyd yn amlygu pwysigrwydd o wneud gwasanaethau Cymraeg yn weledol ac yn hygyrch.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa trigolion bod gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfreithiol cyfartal yng Nghymru, sy’n golygu bod gennych yr hawl i gyfathrebu gyda’r Cyngor a derbyn gwasanaethau yn Gymraeg.

Mae’r Cyngor yn parhau i wneud cynnydd o ran cynyddu’r defnydd o Gymraeg ar draws y gwasanaethau ac mae’n cefnogi mwy o staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gyda dros 70% o weithwyr bellach wedi’u cofnodi â pheth lefel o Gymraeg. Mae’r Cyngor hefyd yn cryfhau addysg Gymraeg mewn ysgolion, mae’n cefnogi gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol Cymraeg, ac yn sicrhau bod yr holl wybodaeth ar ei wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol yn y ddwy iaith.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae Cymraeg yn rhan bwysig o hunaniaeth a diwylliant Sir y Fflint, ac rydym eisiau i bawb sy’n siarad Cymraeg, p'un ai'n rhugl neu ychydig o eiriau yn unig, i gael yr hyder i’w ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd.

“Efallai nad yw rhai pobl yn sylweddoli y gallent gysylltu â’r Cyngor, cael mynediad at wybodaeth a derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ganddynt yr hawl i ddisgwyl yr un lefel o wasanaeth.

“Bob tro bydd rhywun yn dewis defnyddio’r Gymraeg, maent yn helpu i gryfhau’r iaith a sicrhau y bydd yn parhau i ffynnu yn ein cymunedau.”

I gael mwy o wybodaeth am y Gymraeg yn Sir y Fflint, ewch i siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Hwb-Cymraeg