Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gofal Plant Wedi’i Ariannu Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer plant dwy oed yn Sir y Fflint

Published: 03/11/2026

Misoedd cyn cyflwyno’r cynllun ar draws y wlad, gall teuluoedd Sir y Fflint fanteisio ar ofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant dwy oed.

O’r blaen, dim ond teuluoedd mewn ardaloedd Dechrau'n Deg oedd yn gallu manteisio ar ofal plant am ddim ar gyfer plant dwy oed. O’r wythnos hon ymlaen, mae’r cynnig ar gael ar draws y sir – gan gefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant ac annog mwy o deuluoedd i fanteisio ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.

Bydd teuluoedd yn gallu manteisio ar hyd at 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu yr wythnos, wedi’u darparu fel sesiynau 2.5 awr y diwrnod hyd at bum niwrnod yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.

Mae plant yn gymwys o ddechrau’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed, hyd at ddiwedd y tymor y byddant yn troi’n dair oed.

Dim ond drwy ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru i ddarparu cynnig gofal plant estynedig Llywodraeth Cymru y gellir cael mynediad at y cyllid. Mae rhestr lawn o’r darparwyr ar gael ar wefan y Cyngor.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Dyma newyddion gwych ar gyfer teuluoedd Sir y Fflint. Gall darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel gael effaith fawr ar ddatblygiad, hyder a sgiliau cymdeithasol plant, gan eu helpu i greu sylfaen gref ar gyfer dysgu.

“Ar yr un pryd, bydd y gefnogaeth hon yn helpu teuluoedd gyda chostau gofal plant ac yn darparu mwy o hyblygrwydd i rieni sy’n gweithio neu ag ymrwymiadau eraill.

“Os nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod, hoffaf annog bob rhiant a gofalwr i wirio a ydyn nhw’n gymwys er mwyn iddyn nhw fanteisio ar y cyfle gwerthfawr yma.”

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig 12.5 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i blant dwy oed erbyn mis Mawrth 2027.

Bydd cam nesaf y cynllun yn cynnwys cyflwyno 20 awr wedi’i ariannu ar gyfer plant 9 mis oed hyd at oedran ysgol, am 48 wythnos y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i siryfflint.gov.uk/ysgolion