Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pennod newydd ar gyfer treftadaeth Glannau Dyfrdwy wrth i ni lansio Glannau Dyfrdwy Trwy’r Oesoedd
Published: 07/10/2026
Fel rhan o brosiect treftadaeth newydd sbon, gwahoddir trigolion Glannau Dyfrdwy i rannu atgofion a helpu i ddadorchuddio hanes yr ardal.
Wedi’i darparu gan Gyngor Sir y Fflint, bydd ‘Glannau Dyfrdwy Trwy’r Oesoedd’ yn treiddio i hanes Glannau Dyfrdwy, yr afon a’r cymunedau a ddatblygwyd ar ei glannau.
Ni fyddai’r prosiect hwn yn bosibl heb gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri, yn ogystal â chymorth ariannol ychwanegol gan Barc Adfer, Gwella a Chymdeithas Hanes Lleol Glannau Dyfrdwy a’r Ardal.
Nod y prosiect yw rhannu a dathlu treftadaeth unigryw Glannau Dyfrdwy gan weithio gyda’r cymunedau ar lan yr afon i ddogfennu sut mae’r ardal wedi newid dros y blynyddoedd.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri: “Mae stori Glannau Dyfrdwy yn llifo drwy ei hafon, ei diwydiannau a’i chymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Glannau Dyfrdwy Trwy’r Oesoedd yn dod â’r cyfraniadau hyn at ei gilydd, gan helpu pobl i ddarganfod, cofnodi a dathlu’r dreftadaeth sydd wedi siapio’r ardal ers cenedlaethau.”
Bydd Swyddog Treftadaeth Gymunedol a Rheolwr Prosiect rhan-amser yn cael eu cyflogi i ddarparu’r prosiect.
Bydd y canlyniadau’n cynnwys:
- Casglu deunyddiau treftadaeth sydd ar gael yn barod er mwyn eu diogelu a’u gwneud yn gyhoeddus.
- Casglu deunyddiau newydd, yn enwedig atgofion o’r gwaith dur a diwydiannau eraill fel pysgota, llongau a garddio masnachol.
- Cynnal digwyddiadau treftadaeth a sesiynau hel atgofion mewn lleoliadau allweddol ymhob cymuned.
- Rhannu’r deunydd ar ôl ei olygu ar wefan Amgueddfeydd Sir y Fflint, www.flintshiremuseumcollections.wales/?lang=cy.
- Defnyddio celf gymunedol, straeon digidol, llinellau amser gweledol, ffilmiau byrion ac arddangosfeydd i gyflwyno straeon treftadaeth mewn ffyrdd gwahanol i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach.
- Cynhyrchu teithiau rhithiol ar gyfer pob cymuned, gan weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.
- Annog ysgolion Glannau Dyfrdwy i gynnwys eu treftadaeth leol yn eu haddysg drwy gynnig ymweliadau â safleoedd ac adnoddau addysg wedi’u teilwra.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae gan yr ardal gymaint o straeon i’w hadrodd, ac mi fydd yna bobl yn ein cymunedau gydag atgofion, lluniau a gwybodaeth leol sy’n haeddu cael eu rhannu.
“Dyma gyfle gwych i bobl gymryd rhan a helpu i adrodd a diogelu stori unigryw Glannau Dyfrdwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Nhwr y Cloc ddydd Sadwrn 10 Hydref i ddathlu 130 o flynyddoedd ers agor Gwaith Dur Shotton.
Diolch i wahoddiad caredig Wilsons Auctions, bydd Twr y Cloc ar agor o 11am tan 4pm. Mi fydd yna deithiau tywys o amgylch yr adeilad, arddangosfeydd ar y gwaith dur a’r ardal gyfagos, cyfle i hel atgofion gyda hen gydweithwyr a chyfle i archwilio’r tiroedd i ddarganfod mwy am waith Wilson’s Auctions.
Bydd y teithiau hyn yn cael eu cynnal bob awr drwy gydol y dydd a gellir archebu lle ar-lein drwy Eventbrite.co.uk.
Meddai David Williams, Uwch Swyddog Gweithrediadau yn Wilsons Auctions: “Rydym ni mor falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn ac agor drysau Twr y Cloc i nodi 130 mlynedd o hanes yng Ngweithfeydd Dur Shotton.
“Mae’r safle yma wedi bod yn rhan o wead Glannau Dyfrdwy ers cenedlaethau, ac ers caffael yr eiddo yn ôl yn 2020, mae Wilsons Auctions wedi rhoi buddsoddiad sylweddol yn ôl yn y safle i roi bywyd newydd iddo.
“Rydym wrth ein boddau yn croesawu cyn gydweithwyr, preswylwyr lleol ac ysgolion i rannu eu hatgofion a dysgu mwy am y gorffennol, ac annog y cyhoedd yn lleol i ddod i ddarganfod mwy am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma heddiw.”
Mae Wilsons Auctions yn garedig iawn wedi rhoi te, coffi a theisennau am ddim i bawb sy’n bresennol heddiw.
Mae disgwyl i’r galw am deithiau fod yn uchel, felly fe argymhellir eich bod yn trefnu ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Yn anffodus, nid yw’r digwyddiad hwn yn addas i blant dan 14 oed, ond gall ysgolion lleol drefnu ymweliad drwy gysylltu’n uniongyrchol gyda Wilsons Auctions.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch: CommunityHeritageOfficer@flintshire.gov.uk