Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Atafaelu tybaco anghyfreithlon a fêps wedi’u gwahardd mewn ymgyrch Safonau Masnach
Published: 24/09/2026
Mae miloedd o sigaréts, fêps tafladwy wedi’u gwahardd a chynhyrchion tybaco anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu yn ystod cyrchoedd mewn dwy siop.
Ymwelodd swyddogion ag eiddo yn Nhreffynnon a Chei Connah, lle gwnaethon nhw atafaelu tua 6,500 o sigaréts, bron i 3kg o dybaco rholio â llaw a thua 150 o fêps tafladwy.
Amcangyfrifir mai cyfanswm gwerth stryd y nwyddau anghyfreithlon oedd £3,200.
Cyflawnwyd yr ymgyrch yn rhan o fenter cenedlaethol o’r enw Ymgyrch CeCe, ymgyrch gorfodi sy’n ceisio tarfu ar y cyflenwad o dybaco anghyfreithlon a chynnyrch cysylltiedig, a all beri risgiau difrifol i iechyd y cyhoedd a thanseilio busnesau lleol cyfreithlon.
Roedd y sigaréts a'r tybaco naill ai'n ffug, na thalwyd tollau arnynt, neu'n methu â chydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol ar gyfer eu gwerthu yn y DU, sy'n golygu na ellid eu gwerthu’n gyfreithlon ar y farchnad.
Cafodd fêps tafladwy eu gwahardd ym mis Mehefin 2025 er mwyn mynd i'r afael â fepio ymhlith plant a phobl ifanc, ac o ganlyniad i bryderon amgylcheddol, yn cynnwys y risg o dân y gall batris lithiwm-ïon sy’n cael eu taflu eu hachosi.
Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon a fêps wedi’u gwahardd yn peri risg i'n cymunedau ac yn tanseilio busnesau lleol cyfreithlon. Gall hefyd sbarduno gweithgarwch troseddol ehangach.
“Mae’r cyrchoedd diweddaraf hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu ein preswylwyr a sicrhau bod busnesau’n gweithredu yn unol â’r gyfraith.”
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner i nodi ac atal gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon fel hyn.
Anogir preswylwyr i adrodd am werthiannau anghyfreithlon honedig i Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, trwy anfon e-bost at trading.standards@flintshire.gov.uk