Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i wirio prisiau cyn defnyddio ‘tapio i mewn ac allan’
Published: 16/09/2026
Mae preswylwyr Sir y Fflint yn cael eu hannog i wirio dewisiadau prisiau ar gyfer teithiau trên i sicrhau nad ydynt yn talu fwy nag sydd angen am deithiau.
Mae peiriannau newydd ‘talu wrth fynd’ mewn gorsafoedd yn galluogi defnyddwyr i dalu am deithio gan ddefnyddio cerdyn di-gyffwrdd cyn mynd ar y trên.
Er bod y dull hwn yn ffordd fwy cyfleus i lawer o ddefnyddwyr deithio, nid yw bob amser yn cynnig y pris isaf sydd ar gael. Mae hyn oherwydd bod y peiriannau’n codi’r pris sengl safonol i oedolyn, gan gynnwys ar gyfer plant a phobl sydd â Chardiau Teithio. Felly nid yw’n cynnwys gostyngiad priodol, ond mae’n sicrhau eich bod yn talu’r pris safonol gorau heb archebu tocyn ymlaen llaw.
Mae’r Cyngor yn annog teithwyr i ystyried eu dewisiadau cyn teithio, er mwyn osgoi talu gormod.
Yn dilyn cynnig a gafodd ei basio gan Gynghorwyr, mae Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i ofyn bod arwyddion newydd yn cael eu gosod mewn gorsafoedd i roi gwybod i deithwyr bod modd iddynt gael tocynnau rhatach trwy ddulliau talu eraill, o bosibl.
Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae ‘talu wrth fynd’ yn ddewis cyfleus i lawer o deithwyr trenau, ond mae’n bwysig bod pobl yn deall nad hwn yw’r dewis rhataf bob amser, o bosibl. Gallech arbed arian trwy brynu eich tocynnau ymlaen llaw ar-lein neu trwy brynu tocynnau arbennig ar gyfer nifer o deithiau, trwy ddefnyddio'r peiriannau tocynnau safonol mewn gorsafoedd, neu dalu ar y trên hyd yn oed, pan nad oes peiriannau ar gael.
“Yn bwysig, ni ellir defnyddio ‘talu wrth fynd’ gyda Cherdyn Teithio nac i brynu tocyn plentyn neu docyn teulu, ac ni ellir ei ddefnyddio i brynu tocynnau dwyffordd.
“O ganlyniad, rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru ei gwneud yn fwy clir i deithwyr, oherwydd bod ‘talu wrth fynd’ yn cyfrifo’r pris sengl safonol i oedolyn ar gyfer eich taith. Gobeithio y gellir rhoi sylw i’r mater hwn cyn gynted ag sy’n bosibl, er mwyn sicrhau nad yw teithwyr dan anfantais.”