Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiadau i ddathlu agor gwasanaethau gofal a chymorth newydd Sir y Fflint

Published: 11/09/2026

Mae dau wasanaeth mawr newydd wedi’u dylunio i wella gofal, cymorth a chyfleoedd i breswylwyr Sir y Fflint wedi cael eu dathlu mewn digwyddiadau agor arbennig.

Roedd defnyddwyr gwasanaeth a staff, ynghyd â chynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint a sefydliadau partner yn bresennol yn y digwyddiadau yn Nhy Croes Atti yn y Fflint a Choed y Ddraig yn yr Wyddgrug.

Cawsant eu cynnal i gydnabod y gwahaniaeth cadarnhaol y mae’r ddau safle eisoes wedi’i gael ar gymunedau lleol, a’r buddsoddiad sylweddol maent yn ei gynrychioli mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Sir.

Mae Ty Croes Atti, cartref gofal mwyaf newydd Cyngor Sir y Fflint, yn darparu gofal preswyl o safon uchel i bobl hyn gan ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Cafodd y cynllun ei ariannu trwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal a thrwy raglen gyfalaf y Cyngor ei hun.

Yn y cyfamser, mae Coed y Ddraig wedi dod ag amrywiaeth o wasanaethau cymorth ynghyd i oedolion sydd ag anableddau dysgu ac oedolion awtistig a phobl sydd ag anghenion iechyd meddwl.  Yn cael ei redeg gan elusen anableddau dysgu Hft, mae’r lleoliad modern a chynhwysol yn cynnig cyfleoedd i bobl i fagu sgiliau, hyder a mwynhau amrywiaeth eang o wasanaethau.

Mae lleoliad pwrpasol hefyd yn cael ei ddefnyddio gan BIPBC i gynnig ymyraethau therapiwtig gan Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi.

Cafodd Coed y Ddraig ei ddatblygu drwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru a chyllid cyfalaf gan Gyngor Sir y Fflint.

Mae’r digwyddiadau dathlu yn tynnu sylw at y partneriaethau cryf a arweiniodd at y datblygiadau, gyda chynrychiolwyr o’r Cyngor, y Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru, Hft a chwmnïau adeiladu Willmott Dixon (Ty Croes Atti), a MPH Construction (Coed y Ddraig) yn dod ynghyd i nodi’r achlysur ac i glywed o lygad y ffynnon gan bobl sy’n cael eu cefnogi gan y gwasanaethau a’u teuluoedd.

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cyngor Sir y Fflint: “Roedd hi’n bleser ymuno â phobl sy’n elwa’n uniongyrchol o’r gwasanaethau newydd a’u teuluoedd, staff a phartneriaethau i ddathlu llwyddiant Ty Croes Atti a Choed y Ddraig.

“Mae’r gwasanaethau yma wedi cael eu dylunio o amgylch anghenion y bobl sy’n eu defnyddio, gan ddarparu amgylcheddau croesawgar, modern lle gall pobl gael gafael ar gymorth o safon uchel yn agos at adref, mewn lleoliadau sydd yn hyrwyddo annibyniaeth a lles.

“Roedd hi’n hyfryd gweld y ddwy ganolfan yn weithredol ac i glywed yn uniongyrchol am y gwahaniaeth maen nhw eisoes yn ei gael ar fywydau pobl.”

Dywedodd Nesta McCluskey, Cyfarwyddwr Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymunedol Iechyd Integredig y Dwyrain BIPBC: “Mae’n bleser gennym ddathlu agoriad y ddau gyfleuster gwych yma sydd yn dangos beth y gellir ei gyflawni drwy waith partneriaeth gref ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol.

“Mae’r datblygiadau yma’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn lles ein cymunedau yn Sir y Fflint, gan gynnig mynediad at gymorth a gofal pwrpasol o safon uchel.  

“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio i ddarparu gofal yn agosach at adref a sicrhau y gall pobl gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn y lle cywir ar yr adeg gywir.  Bydd y cyfleusterau newydd yma’n helpu i ni gryfhau ein gwasanaethau, gwella canlyniadau a darparu gofal mewn amgylcheddau sydd yn addas at y dyfodol.  

“Rydym yn falch i fod yn rhan o’r prosiectau pwysig yma ac fe hoffem ddiolch i’n partneriaid yng Nghyngor Sir y Fflint, Hft, Llywodraeth Cymru a phawb a gymerodd ran yn eu datblygu.  Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth cadarnhaol y byddant yn ei wneud i fywydau pobl a theuluoedd ar draws Sir y Fflint am flynyddoedd i ddod.

Meddai Delyth Jewell, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Merched: “Mae Ty Croes Atti a Choed y Ddraig yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei gyflawni pan mae Awdurdodau Lleol, byrddau iechyd a phartneriaid yn cydweithio i adeiladu gwasanaethau o amgylch y bobl sy’n eu defnyddio nhw. Mae’r cyfleusterau yma’n adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth yma i gryfhau gwasanaethau lleol a’i nod yw sicrhau y gall pobl gael gafael ar ofal a chymorth o safon uchel yn eu cymunedau.

“Mae buddsoddiadau fel y rhain yn helpu i adeiladu’r capasiti sydd ei angen arnom, fel bod preswylwyr sy’n byw yn y cymunedau yma’n derbyn y gofal cywir, yn y lle cywir, yn nes at adref. Dwi’n edrych ymlaen at weld y buddion parhaol y byddant yn ei roi i bobl leol am flynyddoedd i ddod.”

Meddai Mel Shad, Prif Swyddog Gweithredu HfT:  “Mae llefydd fel Coed y Ddraig yn bwysig gan eu bod yn grymuso ac yn galluogi’r bobl rydym ni’n eu cefnogi i fyw bywyd da.

“Swydd. Sgil newydd. Ffrindiau newydd. Yr hyder i roi cynnig ar rywbeth nad ydynt wedi’i ei wneud o’r blaen.  Mwy o annibyniaeth a mwy o ddewis o ran yr hyn yr hoffech ei wneud o’ch bywyd.

“Gall y pethau hynny deimlo’n arferol iawn - ac fe ddylen nhw. Ond mae gormod o bobl sydd ag anableddau dysgu sydd dal ddim yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall i’w profi nhw.

“Mae Coed y Ddraig yn dangos beth all ddigwydd pan mae sefydliadau yn cydweithio o amgylch dyheadau pobl ag anableddau dysgu.  Rydym ni’n eithriadol o falch o’r hyn sydd wedi cael ei greu yma, ond rydw i hyd yn oed yn fwy cyffrous am yr hyn y bydd y bobl rydym ni’n eu cefnogi yn mynd ymlaen i’w gyflawni o’i achos o.

Dywedodd Anthony Dillon, Rheolwr Gyfarwyddwr i Willmott Dixon yn y Gogledd: “Roedd hi’n bleser ymuno â Chyngor Sir y Fflint a’n partneriaid ar y prosiect i ddathlu agoriad Ty Croes Atti.

“Ochr yn ochr â’n partneriaid penodol yn y gadwyn gyflenwi, fe weithiodd ein tîm yn galed i ddarparu cartref gofal o safon uchel ac rydym ni’n falch o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni, ac yn bwysicach, o’r gwahaniaeth y mae Ty Croes Atti yn ei wneud i breswylwyr a’u teuluoedd, gan ddarparu cyfleuster modern lle gall pobl leol dderbyn gofal o safon uchel a chael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hollbwysig.”

Dywedodd Rhys Edwards, Rheolwr Masnachol MPH Construction:  “Fel contractwr yn Sir y Fflint, rydym yn falch iawn o ddarparu Coed y Ddraig ar gyfer y gymuned leol. Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint a’n partneriaid prosiect lleol, mae hwn wedi bod yn brosiect cydweithredol go iawn o’r dechrau i’r diwedd, yn seiliedig ar nodau cyffredin a pherthynas gref.

“Mae’n rhoi boddhad mawr i ni rwan i gyflwyno cyfleuster pwrpasol o safon sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned a bydd yn darparu manteision hirdymor, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol, go iawn i fywydau pobl am flynyddoedd i ddod.”