Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


O’r Glo i’r Gymuned: Artistiaid ifanc yn dod â hanes a dyfodol Glofa Bettisfield yn fyw

Published: 05/08/2026

Mae plant ysgol lleol wedi helpu i ddod â stori Glofa Bettisfield yn fyw trwy brosiect celf a hanes unigryw, gan greu cyfres o furluniau lliwgar sy'n dathlu gorffennol diwydiannol y safle, ei amgylchedd naturiol a'i ddyfodol cyffrous fel canolbwynt gymunedol.

Daeth y prosiect â disgyblion o Ysgol Gynradd Glan Aber ac Ysgol Gynradd Merllyn ynghyd fel rhan o'r weledigaeth ehangach i drawsnewid Ty Weindio hanesyddol Glofa Bettisfield yn Ganolfan Dreftadaeth Ddiwydiannol a Chanolbwynt Cymunedol.

Mae gan Lofa Bettisfield le pwysig yn nhreftadaeth ddiwydiannol leol a chenedlaethol. Er bod y prosiect ehangach yn anelu at gydnabod a dathlu hanes y safle fel pwll glo, mae hefyd yn edrych yn gadarn tua'r dyfodol, gan greu gofod cymunedol croesawgar lle gellir creu atgofion a straeon newydd.

Bydd gwaith celf y plant yn rhan o'r stori honno am genedlaethau i ddod.

Gwahoddwyd y ddwy ysgol i greu wyth murlun – pedwar o bob ysgol – a fydd yn cael eu harddangos yn yr Ardd, sydd wedi'i lleoli gyferbyn â phrif fynedfa'r Ty Weindio hanesyddol.

Mae chwech o'r murluniau'n archwilio hanes a threftadaeth ddiwydiannol y lofa.  Gan dynnu ysbrydoliaeth o realiti llym bywyd mwyngloddio, mae'r gweithiau celf hyn wedi'u harddangos ar byst duon, gan adlewyrchu'r amodau anodd a brofwyd gan y glowyr a oedd unwaith yn gweithio ar y safle.

Mae'r ddau furlun sy'n weddill yn edrych ar Lofa Bettisfield fel y mae heddiw, gan ddathlu gwaith timau Cefn Gwlad ac Arfordir a Cheidwaid Arfordirol Cyngor Sir y Fflint wrth helpu i amddiffyn a gwella amgylchedd naturiol y safle.  Mae'r gwaith celf hefyd yn tynnu sylw at waith cadwraeth pwysig, gan gynnwys prosiect Llyffantod y Twyni.

Mae'r murluniau hyn wedi'u harddangos ar byst gwyrdd, gan symboleiddio'r amgylchedd naturiol a dyfodol Bettisfield fel lle gall treftadaeth, natur a chymuned ddod at ei gilydd.

Fel rhan o'r prosiect, anogwyd disgyblion i ymchwilio i hanes Glofa Bettisfield a datblygu eu syniadau a'u dyluniadau eu hunain ar gyfer y murluniau.  Roedd hyn yn cynnwys ymweliad â'r safle, lle buont yn archwilio'r ardal a dysgu mwy am ei hanes a'i phwysigrwydd i'r gymuned leol, yng nghwmni staff y prosiect a Cheidwaid Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y safle.

Un o ganlyniadau mwyaf annisgwyl ac ysbrydoledig y prosiect oedd yr enw Saesneg a ddewiswyd gan y plant eu hunain:  'From Coal to Community'.

Mae'r ymadrodd yn dal taith Glofa Bettisfield yn berffaith – o'i gorffennol diwydiannol, trwy ei hamgylchedd naturiol presennol, tuag at ddyfodol fel cyrchfan dreftadaeth sy'n canolbwyntio ar y gymuned.  Mae'r teitl wedi gwneud cymaint o argraff fel ei fod bellach yn cael ei ystyried fel hunaniaeth a logo ar gyfer y prosiect ailddatblygu ehangach.

Mae'r prosiect hefyd wedi creu rhywbeth a fydd yn dod yn rhan o hanes Bettisfield ynddo'i hun.  Bydd cyfranogiad y plant a'u gwaith celf yn cael eu hymgorffori yn stori'r safle ac yn rhan o'i arddangosfa barhaol.

Mewn blynyddoedd i ddod, gobeithir y bydd artistiaid ifanc heddiw yn dychwelyd i Bettisfield gyda'u plant neu eu hwyrion a’u hwyresau eu hunain, yn pwyntio at y murluniau ac yn dweud yn falch:  “Fe baentiais i hwnna pan oeddwn i eich oedran chi.”

I'r rhai a oedd yn rhan o'r prosiect, mae'r gwaith celf gorffenedig wedi rhagori ar ddisgwyliadau.

Wedi bod yn gyfarwydd â’r lofa drwy gydol eu hoes, roedd tîm y prosiect yn gobeithio y byddai'r plant yn dod â safbwynt ffres, unigol ac yn dangos y safle trwy lens wahanol. Mae'r murluniau sy'n deillio o hyn wedi gwneud yn union hynny – a llawer mwy.

Mae Phill De Prez yn esbonio mwy am y prosiect:  “Gyda'i gilydd, mae'r wyth darn unigol yn creu casgliad pwerus ac atmosfferig. Nid yn unig y mae'r gwaith celf yn cael ei fywiogi trwy'r delweddau eu hunain, ond hefyd trwy ddefnyddio lliw a'r ffordd y mae pob murlun yn cysylltu â'r lleill. Er bod pob darn yn adrodd ei stori ei hun, maent yn gweithio gyda'i gilydd fel un cynrychiolaeth drawiadol o orffennol, presennol a dyfodol Bettisfield.”

Meddai’r Cyng. Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae'r murluniau gorffenedig yn dangos creadigrwydd, meddwl a gwaith caled y disgyblion a phawb a oedd yn rhan o ddod â'r prosiect at ei gilydd. Da iawn i bawb a oedd yn rhan.”

Mae prosiect Glofa Bettisfield yn atgof parhaol nad yw treftadaeth yn ymwneud â chadw'r gorffennol yn unig, ond hefyd â rhoi cyfle i genedlaethau'r dyfodol lunio'r straeon a'r lleoedd a fydd yn dod yn rhan o'u hanes nhw eu hunain.

Mae glannau Bagillt, lle saif y lofa, yn hafan bywyd gwyllt o orffennol diwydiannol ac yn un o'r prif ganolbwyntiau ar draws Parc Arfordir Sir y Fflint.  Anogir ymwelwyr i gymryd amser i archwilio'r golygfeydd gwych a'r bywyd gwyllt ffyniannus yn y lleoliad hwn.