Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pum seren i ganolfannau ailgylchu Sir y Fflint

Published: 03/08/2026

Mae trigolion ledled Sir y Fflint yn canmol eu canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref lleol, gydag adolygiadau rhagorol yn rhoi darlun o dimau cyfeillgar a gweithgar sy’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau.

Yn arwain y ffordd mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas, gyda sgôr o 4.9 seren a dros 600 o adolygiadau Google. Ar draws y rhwydwaith llawn o 5 safle, yr un yw’r neges gan drigolion - y bobl sy’n gwneud y gwahaniaeth.

Mae trigolion wedi canmol staff wrth eu henwau ac yn eu geiriau eu hunain. Meddai un adolygwr am Ganolfan Maes Glas: “Bob amser yn gyfeillgar ac yn barod i gynnig help llaw, yn enwedig gan Andy a Doug sydd bob amser yn gwenu.” Dywedodd un arall yn syml: “Rydw i wedi bod yn defnyddio’r ganolfan ailgylchu ers blynyddoedd ac mae’r staff bob amser yn gyfeillgar a chymwynasgar.”

Yn Oakenholt, canmolodd un unigolyn y staff yno am “fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau”. Ychwanegon nhw: “Wel am ddynion cymwynasgar a ddaeth i fy helpu’r prynhawn yma. Roedd Mike, Dave a Les yn wych, gan fy helpu i wagio fy nghar a oedd yn llawn gwastraff gardd.

Yn yr Wyddgrug, meddai ymwelydd: “Staff cyfeillgar a chymwynasgar iawn. Diolch am bopeth yr ydych yn ei wneud ym mhob tywydd. Safle glân a thaclus.”

Mae’r ganmoliaeth yn adlewyrchu ymdrechion gweithlu ymroddedig sy’n gwasanaethu cannoedd o drigolion Sir y Fflint, saith niwrnod yr wythnos.

Mae Cyngor Sir y Fflint wrthi’n gweithio tuag at gyflawni targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff y cartref.  Mae pum canolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn y sir yn chwarae rhan allweddol yn hynny, gyda dros 76% o ddeunyddiau o ganolfannau yn cael eu hailgylchu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Meddai Chris Goddard, Rheolwr y Gwasanaethau Stryd yng Nghyngor Sir y Fflint: “Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob unigolyn sy’n gweithio ar draws ein pum safle.

“Mae’r dynion a merched gweithgar hyn, sy’n dod i’w gwaith ym mhob tywydd, yn helpu trigolion sydd weithiau’n cael trafferth gyda llwythi trwm, cadw’r safleoedd yn lân ac yn rhedeg yn esmwyth, ac yn gwneud popeth gyda gwên. Mae’r adolygiadau’n dweud y cyfan, ac maent yn glod i’r Cyngor.

“Mae safle Maes Glas yn benodol wedi meithrin enw da, ac nid yw hynny’n digwydd yn ddamweiniol. Mae’n digwydd oherwydd cysondeb a chymeriad y tîm yno, bob dydd. Ond mae’r un ymrwymiad i’w weld ar bob safle ar draws y sir.

I’n staff ym Maes Glas, Yr Wyddgrug, Bwcle, Rockliffe a Sandycroft: rydym ni’n eich gweld, ac rydym ni’n eich gwerthfawrogi, ac mae’r adolygiadau hyn yn brawf bod trigolion yn sylwi ac yn gwerthfawrogi’r hyn rydych yn ei wneud.  Da iawn, bob un ohonoch chi.”

Anogir trigolion sy’n defnyddio’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref i adael adolygiad ar Google i’r timau gael gwybod am y gwahaniaeth y maent yn ei wneud.

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Braf iawn yw gweld ein staff yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu gan drigolion. Mae eu gwaith caled a’u parodrwydd i helpu wrth wraidd yr adolygiadau ardderchog hyn, ac rydym yn ddiolchgar am y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud i lwyddiant ein gwasanaeth ailgylchu.”

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod ei Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi’u hardystio’n annibynnol i safonau ISO a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer Ansawdd, Rheoli Amgylcheddol, ac Iechyd a Diogelwch. Mae’n golygu y gallwch ailgylchu â hyder, gan wybod bod y safleoedd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog, gwarchod yr amgylchedd, a chadw pawb yn ddiogel.