Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad dylunio cymunedol Ffordd Fagillt yr A548 yn agor
Published: 14/07/2026
Gwahoddir trigolion, busnesau lleol ac aelodau o'r gymuned i rannu eu barn ar y cynllun drafft i wella cerdded, olwyno a beicio ar hyd yr A548 Ffordd Bagillt rhwng Dyffryn Maes Glas a Heol Pen-y-Maes.
Mae’r gymuned leol wedi nodi materion ar hyd y llwybr hwn, ac mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu i fynd i’r afael â nhw. Mewn ymateb i bryderon cymunedol am ddiogelwch a hygyrchedd, mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Walk Wheel Cycle Trust Cymru i ddatblygu cynllun sy'n adlewyrchu anghenion lleol. Nod y fenter hon yw gwneud cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel, yn fwy hygyrch, ac yn fwy pleserus i bawb, gan helpu i greu ffordd fwy cynhwysol a fforddiadwy o fynd allan o gwmpas ein cymunedau.
Sut i Gymryd Rhan
Mae sawl ffordd o ddweud eich dweud ar y cynllun drafft:
- Mynychu gweithdy wyneb yn wyneb – Dydd Mercher 15fed Gorffennaf am 4pm-7pm, Victorian School, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, CH8 7GR
- Cwblhau’r arolwg ar-lein
- Anfon adborth trwy e-bost – enquiries@walkwheelcycletrust.org.uk
- Anfon adborth drwy'r post – Walk Wheel Cycle Trust Cymru, Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF
Mae copïau papur o’r arolwg hefyd ar gael ar gais gan Walk Wheel Cycle Trust Cymru. I wneud cais am un, anfonwch e-bost at sustranscymru@walkwheelcycletrust.org.uk neu ysgrifennwch at Walk Wheel Cycle Trust Cymru, Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd, CF10 5BF.
Beth Sydd Wedi Digwydd Hyd Yma?
Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom ofyn i chi ddweud wrthym pa rannau o'r A548 Ffordd Bagillt rhwng Dyffryn Maes Glas a Ffordd Pen-y-Maes sy'n gweithio'n dda a pha rai sydd ddim. Fe wnaethom gynnal gweithdai yn y dosbarth gyda phlant ysgol a gweithdy ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Fe wnaethom hefyd greu arolwg ar-lein ac arolwg drwy’r post ar gyfer pobl nad oeddent yn gallu ymuno â ni yn bersonol.
Yr Hyn yr Oedd Gennych chi i’w Ddweud
Tynnodd yr adborth gan y gymuned sylw at nifer o faterion allweddol, gan gynnwys bod:
- Croesi'r A548 Ffordd Bagillt yn anodd ac yn anniogel.
- Llwybrau troed yn rhy gul, ac mae wyneb y llwybrau’n wael.
- Rhwystrau yn gwneud y llwybr troed yn anodd ei ddefnyddio.
- Mae diffyg llwybrau diogel, wedi'u marcio'n glir ar gyfer cerdded, teithio ar olwynion a beicio.
Gyda'n gilydd, fe wnaethom feddwl am rai ffyrdd posibl o ddatrys y problemau hyn a gwneud cynllun drafft ar gyfer yr A548 Ffordd Bagillt.
Nawr, rydym angen cymorth y gymuned eto.
Hoffwn ni glywed eich barn neu’ch sylwadau ar y cynllun drafft—bydd y rhain yn cael eu hystyried fel rhan o gam nesaf datblygiad y dyluniad.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Stryd a Chludiant: “Rydym wir eisiau clywed gan bobl sy’n byw, yn gweithio, ac yn teithio ar hyd yr A548 Ffordd Bagillt am yr hyn sy’n gweithio’n dda, beth allai weithio’n well, a sut y gallai’r cynigion hyn fod o fudd iddynt.
"Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i lunio dyfodol y llwybr hwn, ac rwy’n annog cymaint o bobl â phosibl i ddweud eu dweud.”