Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Gwobr y Faner Werdd yn parhau i chwifio ym Mharc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili
Published: 14/07/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn chwifio Baneri Gwyrdd unwaith eto ar ôl cael eu henwi ymhlith enillwyr Gwobrau’r Faner Werdd 2026.
Mae Parc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili i gyd wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd ar gyfer 2026, gan eu cydnabod fel rhai o’r mannau gwyrdd gorau yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddodd Cadwch Gymru’n Daclus heddiw fod nifer uchaf erioed, sef 330 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru, wedi cyrraedd y safonau uchel sy’n ofynnol i ennill y Faner Werdd yn 2026. Mae hyn yn cynnwys 93 o safleoedd a enillodd statws llawn Gwobr y Faner Werdd a 237 o safleoedd a dderbyniodd Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Enillodd pedwar ar ddeg o’r safleoedd hyn hefyd Achrediad Safle Treftadaeth Werdd, gyda chefnogaeth Cadw, am ddangos ymrwymiad i warchod a hyrwyddo eu hanes unigryw.
Dyfarnwyd y Faner Werdd i Barc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili i gydnabod eu bod yn ddiogel, wedi’u cynnal a’u cadw’n dda ac yn lân, yn arddangos rheolaeth amgylcheddol ragorol ac yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr. Mae’r 330 o safleoedd ledled Cymru yn cynnwys parciau, campysau prifysgolion, coetiroedd cymunedol, mynwentydd ac ystadau tai.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau statws y Faner Werdd unwaith eto eleni ym Mharc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili. Mae’r llwyddiant hwn yn adlewyrchu’r ymdrech a’r balchder aruthrol a ddangosir gan y tîm cyfan sy’n cynnal ac yn gwella’r mannau hyn er mwyn i’r cyhoedd eu mwynhau."
Mae Cyngor Sir y Fflint yn estyn ei ddiolch diffuant i dimau’r safleoedd ac i’r rhwydwaith anhygoel o wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu oriau di-ri at waith cynnal a chadw, cadwraeth ac ymgysylltu â’r gymuned sy’n gwneud y parciau hyn mor arbennig. Diolch i’w gwaith caled a’u hymrwymiad, mae pob safle wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel man gwyrdd blaenllaw sy’n agored, yn hygyrch ac yn gynaliadwy. Diolch arbennig i Gyfeillion Bryn y Beili a Chyngor Tref yr Wyddgrug, Cyfeillion Parc Gwepra a’n rhanddeiliaid parc gwerthfawr, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas a’i gwirfoddolwyr cefnogol.
Mae Parc Gwepra yn parhau i fod yn esiampl ragorol o ran bioamrywiaeth a hamdden i deuluoedd.
Mae Dyffryn Maes Glas yn cynnig cyfuniad cyfoethog o dreftadaeth ddiwydiannol a bywyd gwyllt bywiog.
Mae Bryn y Beili, gyda’i arwyddocâd hanesyddol a’i swyn naturiol, yn parhau’n hafan heddychlon o fan gwyrdd yng nghanol tref yr Wyddgrug.
Mae’r gwobrau’n cael eu cydnabod mewn mwy nag 20 o wledydd ac yn gwobrwyo’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau, fel bod ymwelwyr yn gwybod, ble bynnag y gwelant Faner Werdd, eu bod yn ymweld â lle eithriadol sy’n cyrraedd y safonau uchaf.
Yng Nghymru, Cadwch Gymru’n Daclus sy’n gweinyddu cynllun y gwobrau. Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
"Mae Cymru wir yn gosod y safon o ran mannau gwyrdd rhagorol, gyda 330 o leoedd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau’r Faner Werdd eleni. O barciau blaenllaw a choetiroedd bywiog i safleoedd hanesyddol a mannau cymunedol, mae Cymru wedi dangos flwyddyn ar ôl blwyddyn ei hymrwymiad diysgog i feithrin mannau gwyrdd cynhwysol y gall pawb eu mwynhau.
"Mae mannau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru, ac rydym yn dymuno diolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n cyfrannu at sicrhau bod y lleoedd arbennig hyn yn ffynnu ac ar gael i bawb eu mwynhau."
Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru