Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Carreg filltir bwysig i Ganolbwynt Cymunedol Rivertown wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau yn Shotton
Published: 03/07/2026

Mae carreg filltir arwyddocaol wedi’i chyrraedd ar gyfer prosiect “Gobaith ar y Stryd Fawr” Rivertown yn Shotton, wrth i gwmni Gareth Morris Construction Ltd (GMC) o Bontfadog ger Llangollen gael ei benodi’n brif gontractwr a’r gwaith ar y safle yn dechrau ddydd Llun 29 Mehefin 2026.
Bydd y gwaith ailddatblygu gwerth miliynau o bunnau yn trawsnewid safle Eglwys Ddiwygiedig Unedig Rivertown yn ganolbwynt cymunedol modern a phrysur, gan ddod â gwasanaethau a sefydliadau at ei gilydd i gefnogi preswylwyr lleol.
Mae’r prosiect yn enghraifft wych o waith partneriaeth llwyddiannus. Mae tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi cefnogi datblygiad y cynllun ers 2023, gan weithio ochr yn ochr â Grwp Partneriaeth Prosiect Rivertown a budd-ddeiliaid allweddol eraill i helpu i siapio’r prosiectau a chael cyllid.
Mae’r cydweithio hwn wedi helpu’r grwp partneriaeth i gael buddsoddiad o dros £2 miliwn, yn cynnwys £750,000 drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan helpu i symud y prosiect yn ei flaen. Mae dros filiwn o bunnau wedi dod drwy ffynonellau preifat, yn cynnwys Sefydliad Moondance, Ymddiriedolaeth Benefact, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Oakdale, Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer ac Eglwys Ddiwygiedig Unedig Synod Genedlaethol Cymru.
Er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith adeiladu, mae Rivertown wedi symud ei weithgareddau i safle hen ysgol Bryn Tirion, gan sicrhau parhad gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol gwerthfawr yn ystod y cyfnod adeiladu. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cymryd 44 wythnos a phopeth wedi’i orffen erbyn mis Ebrill 2027.
Meddai Chris Atherton, Arweinydd Prosiect Rivertown:
“Dyma gyfnod hynod gyffrous i bawb sy’n ymwneud â phrosiect Rivertown. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym ni wedi gweithio’n ddiflino gyda’n partneriaid i wireddu’r weledigaeth a rennir gennym. Mae’r gefnogaeth – yn enwedig gan Gyngor Sir y Fflint, wedi bod yn hollbwysig i’n helpu ni i sicrhau’r cyllid a’r hyder sydd ei angen i ddatblygu’r prosiect.
Wrth i’r gwaith ar y safle ddechrau a symud i Fryn Tirion dros dro, rydym ni wedi ymrwymo i greu gofod croesawgar a fydd yn gwasanaethu’r gymuned gyfan ar gyfer sawl blwyddyn i ddod.”
Meddai Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:
“Dyma enghraifft wych o’r hyn y gall partneriaeth gref ei gyflawni. Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi prosiect Rivertown ers 2023, gan helpu i ddatblygu cynllun a fydd yn darparu buddion go iawn i gymuned Shotton.
Mae sicrhau dros £2 filiwn o gyllid, yn cynnwys buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn gyflawniad aruthrol. Bydd y canolbwynt cymunedol newydd yn chwarae rhan allweddol i gryfhau gwasanaethau lleol, cefnogi lles a chyfrannu at adfywiad parhaus canol y dref.”