Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgyrch lwyddiannus ar y cyd yn cryfhau safonau diogelwch tacsis ar hyd a lled Sir y Fflint
Published: 02/07/2026
Roedd y niferoedd o yrwyr tacsi yn Sir y Fflint oedd yn cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau trwyddedu yn uchel iawn mewn ymgyrch lwyddiannus ar y cyd a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a’r DVSA.
Yn ystod ymgyrch ‘Cargo’, bu Swyddogion Trwyddedu yn cynnal archwiliadau ar ochr y ffordd o dacsis a cherbydau hurio preifat gyda chydweithwyr o’r Heddlu, ac fe gymerwyd rhai cerbydau i leoliad y cytunwyd arno er mwyn i swyddogion y DVSA gynnal gwiriadau ychwanegol. Dyma oedd y tro cyntaf i’r tri sefydliad yma weithio â’i gilydd ar un ymgyrch.
Cafodd cyfanswm o 21 o gerbydau eu stopio a’u harchwilio mewn gwiriadau ar hyd a lled y sir yn ystod y diwrnod. Adroddodd y Swyddogion fod yna lefel eang o gydymffurfiaeth, a dim ond mân broblemau a ganfuwyd.
Rhoddodd y DVSA gyngor ar deiars oedd yn agosáu at y terfyn cyfreithiol, tra bod Swyddogion Trwyddedu wedi rhoi cyngor ar faterion megis pecynnau cymorth cyntaf coll ac arwyddion dim ysmygu.
Nod yr ymgyrch oedd sicrhau bod cerbydau a gyrwyr trwyddedig yn bodloni eu hamodau trwyddedu a gofynion cyfreithiol ehangach, helpu i gynnal diogelwch y cyhoedd a hyder yn fflyd drwyddedig y Sir.
Roedd yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Trwyddedu, sef ymgyrch flynyddol sydd yn dangos y cydweithio rhwng timau trwyddedu, yr Heddlu a sefydliadu partner i amddiffyn y cyhoedd a chynnal safonau uchel ar draws diwydiannau trwyddedig.
Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r gwiriadau yma’n helpu i sicrhau y gall preswylwyr deithio â hyder, gan wybod bod tacsis a cherbydau hurio preifat trwyddedig yn Sir y Fflint yn parhau i fodloni’r safonau a ddisgwylir ganddynt.
“Rwy’n falch bod yr ymgyrch hon wedi canfod lefelau uchel o gydymffurfiaeth a diolch i’r gyrwyr am eu cydweithrediad.”
Dywedodd y Sarsiant Emma Birrell o Uned Trosedd Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n rhaid i yrwyr tacsi ddilyn deddfwriaeth benodol er mwyn sicrhau bod eu cerbydau a gyrwyr yn ddiogel i fod ar y ffordd, ac yn anffodus rydym ni’n gweld rhai nad ydynt yn cyrraedd y safon.
“Caiff unrhyw drosedd ei chosbi’n briodol, a byddwn yn parhau â’r gwiriadau trwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.
“Mae hi’n bwysig iawn bod unrhyw un sy’n ymweld â chanol trefi a dinasoedd yn cael sicrwydd mai eu diogelwch yw’r peth pwysig pan fyddant yn defnyddio tacsi.
“Mae’r ymgyrch hon yn amlygu’r pwyslais rydym yn ei roi ar ddiogelwch cymunedol - rydym eisiau i bobl ddod yma a mwynhau ac yna mynd adref yn ddiogel wedyn.”