Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hwb o £900,000 ar gyfer gweithgynhyrchwyr Sir y Fflint wrth i’r Parth Buddsoddi ddarparu canlyniadau cynnar

Published: 30/06/2026

Mae gweithgynhyrchwyr lleol eisoes yn elwa o Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, gyda 15 o fusnesau lleol yn derbyn cyfran o £898,461 mewn grantiau i gymell twf a chreu swyddi. 

Disgwylir i’r cyllid, a ddyfarnwyd gan Gyngor Sir y Fflint, ddatgloi £1.2 miliwn arall mewn buddsoddiad sector preifat, wrth i fusnesau ddarparu cyllid cyfatebol ar gyfer eu prosiectau, gan olygu bod buddsoddiad o dros £2 filiwn yn sector gweithgynhyrchu’r sir. 

Nod y cynllun yw cynorthwyo gweithgynhyrchwyr bach a chanolig Sir y Fflint i fuddsoddi’n gynt, tyfu’n gyflymach a chystadlu’n fwy effeithlon.  

Disgwylir i’r prosiectau a gefnogwyd hyd yn hyn greu 79 o swyddi llawn amser, a galluogi busnesau bach a chanolig i fuddsoddi mewn peiriannau newydd, awtomatiaeth, gwelliannau eiddo, effeithlonrwydd ynni, achrediadau diwydiant a gwelliannau cynhyrchiant ehangach. 

Mae’r gefnogaeth wedi cyrraedd busnesau ar draws Maes Glas, Saltney, Sandycroft a’r Wyddgrug, ochr yn ochr ag ystadau diwydiannol allweddol ledled y sir, gan ddangos cryfder ac ystod y sylfaen gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint.  

Mae cymaint o alw am y cynllun nes bo’r rownd bresennol yn llawn ac wedi cau dros dro, gyda’r disgwyl y bydd mwy o gyllid ar gael yn yr hydref. 

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Dyma’n union oedd bwriad y Parth Buddsoddi.  Cefnogi ein gweithgynhyrchwyr lleol i dyfu, buddsoddi a chreu swyddi. 

“Rydym eisoes yn gweld busnesau’n cyflwyno cynlluniau i foderneiddio offer, ehangu capasiti a gwella effeithlonrwydd.  Dyma brosiectau y mae’n bosibl na fyddent wedi digwydd heb y gefnogaeth. 

“Yn yr un modd, mae pob punt o gyllid cyhoeddus yn derbyn cyllid cyfatebol gan y busnesau eu hunain, gan ddatgloi buddsoddiad preifat sylweddol yn economi Sir y Fflint.  Mae lefel y galw yr ydym wedi’i weld yn dangos gwir uchelgais yn ein sector gweithgynhyrchu, ac rydym yn edrych ymlaen at ail-agor y cynllun yn yr hydref i gefnogi mwy o gwmnïau”. 

Mae’r rhaglen grant yn rhan allweddol o’r Parth Buddsoddi ehangach, gan gynorthwyo i atgyfnerthu sylfaen gweithgynhyrchu Sir y Fflint a Wrecsam, cymell arloesi a chefnogi twf economaidd hirdymor ar draws y rhanbarth. 

Cefnogir rhaglen Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam gan Lywodraeth Cymru a’r DU a’i gydlynu gan Uchelgais Gogledd Cymru.