Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio gwasanaeth symudol newydd fel rhan o fodel newydd Sir y Fflint yn Cysylltu

Published: 30/06/2026

Mae gwasanaeth symudol newydd Cyngor Sir y Fflint sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth wyneb yn wyneb i fwy o gymunedau yn lansio ym mis Gorffennaf. 

Gan weithio ochr yn ochr â’r llyfrgell deithiol, bydd y gwasanaeth newydd yn teithio i drefi a phentrefi ar hyd arfordir y gogledd ac yng ngogledd orllewin a de orllewin y sir, gan ei gwneud yn haws i breswylwyr mewn ardaloedd gwledig gael mynediad at gymorth heb fod angen teithio.

Mae’n ffurfio rhan o fodel gweithredu newydd Sir y Fflint yn Cysylltu, wedi’i lunio yn dilyn adolygiad llawn o’r gwasanaeth ac adborth helaeth gan breswylwyr, staff a phartneriaid lleol. Graphic CYM.png

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhai Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu wedi gorfod lleihau eu horiau agor oherwydd pwysau staffio.  Mae’r adolygiad wedi cynorthwyo’r Cyngor i ganfod ffordd well o gadw’r gwasanaeth i fynd, cyrraedd mwy o bobl a sicrhau bod cefnogaeth ar gael ble bo’r angen mwyaf.  

Fel rhan o’r newidiadau, bydd y pum Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle, Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Threffynnon yn parhau i fod ar agor yn rhan amser.  Bydd dau leoliad newydd hefyd yn cael eu cyflwyno yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Chanolfan Gymunedol Saltney, a byddant ar agor un diwrnod yr wythnos. 

Ynghyd â’r gwasanaeth symudol newydd, mae hyn yn golygu bod Sir y Fflint yn Cysylltu ar gael mewn mwy o leoedd nag erioed o’r blaen. 

Meddai’r Cynghorydd Linda Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid:  “Mae lansiad ein gwasanaeth symudol newydd yn gam mawr ymlaen ar gyfer Sir y Fflint yn Cysylltu. 

“Mae’n golygu y gallwn gyrraedd pobl sydd heb dderbyn cefnogaeth leol o’r blaen a’i gwneud yn haws i breswylwyr gael y cymorth sydd ei angen arnynt.  Mae’r model newydd yn ymwneud â bod yn hyblyg, cyfoes a chanolbwyntio ar ein cymunedau. 

“Rydym yn diolch i’r preswylwyr am eu hamynedd wrth i ni weithio i leihau’r aflonyddwch, ac rydym yn edrych ymlaen at helpu mwy o gwsmeriaid o dan y gwasanaeth newydd.” 

Gall preswylwyr ymweld â Sir y Fflint yn Cysylltu am gyngor ar bopeth o dai, budd-daliadau a threth y Cyngor, i wastraff ac ailgylchu, gofal cymdeithasol a chynllunio. 

 *Fydd tudalen wefan yn diweddaru gydag amserlen newydd Connects.*