Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi prosiectau bioamrywiaeth ar draws Sir y Fflint

Published: 29/05/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu effaith gynyddol gwaith natur a bioamrywiaeth ar draws y sir, a fu’n bosibl oherwydd cyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Lywodraeth Cymru.

Mae tîm bioamrywiaeth bychan ond ymroddedig y Cyngor yn gweithio gydag adrannau ar draws y Cyngor i ddarparu ystod eang o brosiectau i fynd i’r afael â cholled natur yn ein cymunedau.

Mae’r mentrau presennol yn cynnwys rheoli dros 48 hectar o dir sy’n eiddo i’r Cyngor ar gyfer blodau gwyllt ac arwain cynllun plannu coed i gynyddu gorchudd canopi a gwella gwytnwch i newid hinsawdd, gyda dros 4,000 o goed wedi’u plannu yn 2025.

Mae gwaith hefyd ar y gweill i adfer pyllau a chefnogi prosiectau rheoli llifogydd naturiol, adfer gwrychoedd er mwyn iddynt ddarparu coridorau bywyd gwyllt pwysig ar gyfer y dyfodol, a chydlynu darpariaeth rhaglen Cefnogwyr Eco Sir y Fflint gydag ysgolion lleol.

Mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, mae’r tîm yn gweithio i nodi safleoedd dolydd hanesyddol a chynaeafu hadau lleol a ddefnyddiwyd ar draws 1.5Ha o safleoedd dolydd hirdymor diogel ar ystâd y Cyngor yn 2025.

Maent hefyd yn gweithio i leihau’r defnydd o gemegau niweidiol, adfywio cynwysyddion planhigion ar gyfer peillwyr mewn trefi a gofodau cymunedol, arolygu a monitro poblogaethau o rywogaethau a warchodir, a grymuso gweithredoedd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ar draws Sir y Fflint. 

Mae’r prosiectau hyn yn wych ar gyfer natur - ond hefyd maent yn creu amgylchedd sy’n gallu ymdopi â’n tywydd sy’n newid ac sy’n fwy eithafol ac yn cyfrannu at les preswylwyr, gan greu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.

Mae’r Cyngor wedi llwyddo i dderbyn cyllid grant pellach i barhau ac ehangu’r gwaith ymhellach yn 2026.  Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer rhaglen gyffrous o weithgareddau, gan gynnwys lansio ymgyrch ‘Sir y Fflint yn ei Blodau’, a mwy o waith gydag ysgolion i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o stiwardiaid amgylcheddol.

Bydd y Cyngor hefyd yn ceisio gweithio’n agosach gyda Chynghorau Tref a Chymuned a chynllunio mwy o ddigwyddiadau ymgysylltu drwy gydol y flwyddyn.  Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Cefn Gwlad ac Arfordir Sir y Fflint.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda phreswylwyr, cymunedau a sefydliadau i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd naturiol - gan wneud y mwyaf o bob cyfle i ganfod cyllid allanol a darparu buddion lleol.

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:  “Anaml mae pobl yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r newidiadau bach hyn ar gyfer natur.  Mae ein bywyd gwyllt yn dirywio’n sylweddol ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud ein rhan i helpu.  Dim ond os ydym yn sicrhau fod gan natur le yn ein cymunedau y gallwn ffynnu”.