Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwahodd landlordiaid ac asiantau gosod i ddigwyddiad Fforwm Landlordiaid
Published: 13/05/2026
Gwahoddir landlordiaid ac asiantau gosod o bob rhan o Sir y Fflint i ddigwyddiad ar-lein yr wythnos hon, gan ddod â gweithwyr proffesiynol tai ynghyd i drafod materion allweddol yn y sector rhentu preifat.
Bydd y digwyddiad, a drefnir gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol mewn partneriaeth â Fforwm Landlordiaid Cyngor Sir y Fflint, yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ac arweiniad ar bynciau yn cynnwys deddfwriaeth newydd sy’n effeithio ar landlordiaid, safonau tai a datblygiadau ehangach o fewn y sector.
Bydd y rhai sy’n bresennol hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau.
Nod y fforwm yw annog ymgysylltu cadarnhaol gyda landlordiaid ac asiantau wrth gefnogi tai o ansawdd uchel ar draws y sir.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Iau, 14 Mai, o 6pm i 7.30pm. I gadw lle, anfonwch e-bost at gillian.owens@nrla.org.uk