Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Teithio Llesol Ewlo: Cau Ffyrdd
Published: 27/04/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynghori defnyddwyr ffyrdd y bydd nifer o ffyrdd ar gau dros nos yr wythnos hon wrth i’r gwaith barhau ar Gynllun Teithio Llesol Ewlo.
Fel rhan o’r gwelliannau hanfodol hyn, mae angen cau’r ffyrdd am gyfnodau byr dros nos fel bod y gweithlu’n gallu gweithio’n ddiogel.
Bydd gwyriadau’n cael eu dangos yn glir a gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl.
Bydd Hen Ffordd yr Wyddgrug yn cau’n llwyr am un noson ar 27 Ebrill, 8yp i 6yb.
Ac yna bydd Ffordd Lerpwl yn cau’n llwyr am un noson ar 28 Ebrill, 8yp i 6yb.
Bydd goleuadau traffig pedair ffordd dros dro ar Gylchfan Dewi Sant am un noson ar 29 Ebrill, 8yp i 6yb.
Mae angen cau’r ffyrdd hyn er mwyn gosod a defnyddio’r cerbydau a’r offer sydd eu hangen i gwblhau’r gwaith yn ddiogel.
Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i’r gwaith hanfodol hwn fynd rhagddo.