Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae pleidleiswyr yn cael eu hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr
Published: 16/04/2026
Gydag ond diwrnodau i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai, dylai unrhyw un sydd am bleidleisio wneud yn siwr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.
Mae ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau, gan gynnwys pobl ifanc, myfyrwyr a’r rhai sydd wedi symud yn ddiweddar, yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru nag eraill. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw canol nos dydd Llun 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae’n cymryd pum munud yn unig.
Ar ôl iddynt gofrestru, bydd gan bleidleiswyr ystod o ddewisiadau – gallant bleidleisio’n bersonol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy. Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Dywedodd Neal Cockerton, Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint: “Peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud yn etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae etholiadau’r Senedd yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud ar bwy sy’n eich cynrychioli chi leol ac sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd yma yn Sir y Fflint.”