Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Teyrnged i’r Cynghorydd Hilary McGuill
Published: 14/04/2026
Yn anffodus bu farw’r Cynghorydd Hilary McGuill o Sir y Fflint yn 76 oed ddydd Sadwrn (11 Ebrill).
Roedd y Cynghorydd McGuill yn aelod mawr ei pharch o’r Cyngor, ac roedd yn adnabyddus am ei hymroddiad i wasanaethu’r cyhoedd a’i hymrwymiad i’w chymuned yn Argoed a Phentre Cythrel.
Cafodd sawl rôl yn y Cyngor ers cael ei hethol ym 1999. Yn fwyaf diweddar, bu’n Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ac roedd yn falch o fod yn Gadeirydd y Cyngor yn 2011.
Roedd y Cynghorydd McGuill yn credu’n gryf bod tegwch a thosturi yn hanfodol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus effeithiol.
Roedd ei hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a’i chred mewn rhoi llais i’r rhai na fyddent yn cael eu clywed fel arall, yn amlwg ym mhopeth a wnâi, yn enwedig fel aelod ymroddedig ers amser maith ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, y bu’n ei Gadeirio am nifer o flynyddoedd ers 2008. Bu’n gwasanaethu ar Gyngor Cymuned Argoed am dros 20 mlynedd hefyd.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Dave Hughes: “Roedd y Cynghorydd McGuill yn Gynghorydd ymroddedig a fu’n gweithio’n galed. Roedd ei chymuned a’r bobl yn bwysig iawn iddi, yn enwedig pobl ddiamddiffyn neu bobl a oedd wedi’u dadleoli. Bu’n gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth.
“Y tu hwnt i’w gwaith fel Cynghorydd, roedd hi’n fam a nain annwyl iawn ac roedd yn uchel iawn ei pharch yn y gymuned leol.
“Fe fydd yna golled ar ôl y Cynghorydd McGuill ymysg ei chydweithwyr a ffrindiau yng Nghyngor Sir y Fflint ac mae ein meddyliau gyda’i theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.”
Fel arwydd o barch i’r Cynghorydd McGuill, fe fydd y baneri y tu allan i Dy Dewi Sant yn cael eu chwifio’n isel.