Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn mabwysiadu dull cydlynol newydd i reoli a chynnal a chadw tir

Published: 01/04/2026

Mae dull cydlynol newydd o reoli tir o eiddo’r Cyngor sy’n hygyrch i’r cyhoedd  ledled y Sir wedi cael ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint.

Mae’r dull ‘Un Cyngor’ yn golygu y bydd y math yma o dir yn cael ei reoli’n gydlynol yn hytrach na gan wasanaethau unigol, gan sicrhau ymateb cyson i unrhyw broblemau gwastraff ac amgylcheddol.

Mae’r tir y mae’r Cyngor yn berchen arno ac yn ei reoli yn amrywio o briffyrdd, llwybrau troed a meysydd parcio i sgwariau mewn trefi, mannau gwyrdd a chaeau chwaraeon.

Yn y gorffennol, mae gwasanaethau gwahanol y Cyngor wedi ymateb yn annibynnol o’i gilydd i adroddiadau o broblemau gwastraff neu amgylcheddol, ac weithiau nid oedd hi’n amlwg na chlir pwy oedd â chyfrifoldeb am asedau tir gwahanol.

Gall hyn arwain at ymateb hir cyn delio ag unrhyw broblemau, megis tipio anghyfreithlon, deiliant wedi gordyfu a gwaith trwsio sydd yn ei dro yn gallu arwain at gwynion.

Fe fydd y dull newydd yma’n arwain at berchenogaeth glir o holl dir y Cyngor ac yn symleiddio sut y caiff problemau eu rheoli er mwyn galluogi ymatebion cyflymach sydd yn fwy cydlynol.

Meddai Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant:  “Ni fu hi’n amlwg yn y gorffennol pwy sydd yn gyfrifol am ardaloedd gwahanol o dir, a gall hyn arwain at oedi a rhwystredigaeth i breswylwyr.

“Mae’r dull yma’n dod â phopeth ynghyd, er mwyn i ni ymateb i faterion yn gyflymach a sicrhau bod tir yn cael ei reoli mewn modd sydd yn fwy cyson ac effeithiol.”