Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mwy o Gymraeg yng ngwasanaethau cymdeithasol Sir y Fflint

Published: 25/03/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymdrechu’n galetach i hybu a chefnogi’r Gymraeg yn y gwasanaethau cymdeithasol, yn ôl adroddiad newydd.

Clywodd aelodau’r Cabinet mewn cyfarfod yr wythnos hon fod y gwasanaethau i blant ac oedolion yn dal i atgyfnerthu’r ddarpariaeth yn Gymraeg ac yn sicrhau y gall mwy o bobl dderbyn gofal a chymorth yn yr iaith a ddewisant.

Elfen greiddiol o’r gwaith yw’r ‘Cynnig Gweithredol’, sy’n golygu y cynigir gofal a chymorth i bobl yn Gymraeg heb iddynt orfod gofyn am hynny.

Yn yr adroddiad y bu’r Cabinet yn ei ystyried, amlygwyd ei bod yn bwysig i lawer o bobl, yn enwedig rhai sy’n ddiamddiffyn, fedru cyfathrebu yn yr iaith o’u dewis er mwyn gallu meithrin ymddiriedaeth, mynegi eu hanghenion a chyflawni gwell canlyniadau.

Pwysleisiwyd ymdrechion parhaus y Cyngor i recriwtio mwy o staff sy’n siarad Cymraeg, cefnogi gweithwyr presennol i ddatblygu neu wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi anogaeth i bobl ddefnyddio’r iaith yn y gwasanaeth.

Rhoddir ystyriaeth fwy cyson i’r Gymraeg hefyd mewn asesiadau, cynlluniau gofal a gweithdrefnau diogelu, sy’n helpu i sicrhau y bodlonir anghenion iaith pobl o’r cychwyn cyntaf.

Meddai’r Craig Macleod, Prif Swyddog, Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae arnom eisiau i bobl fod yn gyfforddus a theimlo fod pobl yn eu deall pan maen nhw’n defnyddio ein gwasanaethau ni, ac mae iaith yn rhan fawr o hynny.

“Er inni wneud cynnydd gwerth chweil hyd yma, mae’r Cyngor yn ymrwymo i ddal ati i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan naturiol o’r ffordd y darperir ein gwasanaethau bob dydd.”