Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol
Published: 25/03/2026
Mae Tîm Datblygu Chwarae Cyngor Sir y Fflint wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol ar ôl cael eu henwi’n un o dri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Gwaith Chwarae Rheng Flaen yng Nghynhadledd Gwaith Chwarae Genedlaethol eleni.
Mae’r wobr yn dathlu sefydliadau y mae eu gwaith, arfer ac ethos wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn egwyddorion gwaith chwarae, â chanolbwynt cryf ar blant yn cael llais a pherchnogaeth mewn gwasanaethau sydd wedi’u dylunio ar eu cyfer nhw.
Roedd yr enwebiad yn cydnabod gwaith y tîm Datblygu Chwarae i gynnig cyfleoedd chwarae gwerthfawr i ysgolion a chymunedau ar draws Sir y Fflint, ac ymdrechion ehangach y Cyngor i sicrhau bod hawliau plant o ran mynediad at chwarae yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.
Dywedodd Darren Morris, Swyddog Arweiniol Datblygu Chwarae a Chyfleoedd Chwarae Digonol: “Mae cael ein cydnabod ar y llwyfan cenedlaethol yn gydnabyddiaeth addas o’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan y tîm cyfan bob dydd – rydw i mor falch ohonyn nhw.
“Roedd cael ein henwebu yn y categori hwn yn golygu llawer iawn, ond roedd cael ein henwi yn un o dri ar y rhestr fer yn wirioneddol wych.
“Er na wnaethom ni ennill, roedd yr enwebiad yn cydnabod pa mor bell ydym ni wedi dod fel gwasanaeth dros y blynyddoedd diweddar a sut ydym ni wedi llwyddo i greu cysylltiadau ar draws gwasanaethau eraill yn y Cyngor er mwyn rhoi sylw i chwarae.”
Tiwtor Darren o Glybiau Plant Cymru wnaeth enwebu’r tîm ac mae wrthi’n cwblhau ei gymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 5 gyda nhw ar hyn o bryd.
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae cael eu henwi ymhlith y tri olaf mewn categori mor gystadleuol yn adlewyrchiad clir o ymroddiad ein tîm Datblygu Chwarae a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc yn ein sir.
“Mae eu hymrwymiad i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed a bod chwarae yn cael ei werthfawrogi yn ein cymunedau yn rhywbeth y gallwn i gyd ei ddathlu.”