Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfraddau ailgylchu yn cynyddu ar ôl symud i gasgliadau bob tair wythnos

Published: 18/03/2026

Mae adroddiad newydd yn dangos bod y Cyngor wedi rhagori ar darged ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru yn dilyn cyflwyno casgliadau bin du bob tair wythnos.

Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r perfformiad o chwarter un i chwarter tri blwyddyn ariannol 2025/26 ac mae’n amlygu gwelliant sylweddol o ran cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff ar draws y sir.

Mae ffigurau a wiriwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos mai cyfradd ailgylchu Sir y Fflint yn chwarter un oedd 70.87% a chynyddodd yn chwarter dau i 75.13%. Mae chwarter tri yn cael ei wirio ar hyn o bryd ac mae dangosyddion cynnar yn dangos gwelliannau ar y flwyddyn flaenorol.

Mae’r Cyngor yn dathlu perfformiad Sir y Fflint o ran ailgylchu ac mae’r adroddiad yn cydnabod bod casgliadau bin rhai preswylwyr wedi’u methu yng nghamau cynnar y gwasanaeth wrth i griwiau a rowndiau casglu addasu i’r trefniadau newydd.

Ers hynny, mae’r perfformiad wedi parhau i sefydlogi wrth i’r system newydd ennill ei phlwyf ac wrth i fentrau newydd gael eu gweithredu.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae symud i gasgliadau pob tair wythnos wedi helpu Sir y Fflint i gyflawni cyfradd ailgylchu o fwy na 70% yn nhri chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol, sy’n ganlyniad gwych ac mae’n adlewyrchu’r ymdrech enfawr gan breswylwyr i ailgylchu fwy a lleihau gwastraff.

“Rydym yn cydnabod bod newid amserlenni casglu wedi golygu bod rhai biniau’n cael eu methu, yn enwedig yn y camau cynnar. Fodd bynnag, gallaf roi sicrwydd i breswylwyr ein bod wedi symleiddio ein prosesau ers hynny, uwchraddio’r systemau a chyflwyno system gofnodi well. Rydym yn parhau i geisio sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg mor esmwyth ag sy’n bosibl wrth gynnal y perfformiad gwych hwn o ran ailgylchu.”

Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Cabinet yn hwyrach y mis hwn.