Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad gyrfaoedd i arddangos cyfleoedd gwaith a hyfforddi yn Sir y Fflint

Published: 12/03/2026

Bydd digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd i arddangos y cyfleoedd gwaith a hyfforddi sydd ar gael ar draws Sir y Fflint yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah, ddydd Mercher, 18 Mawrth o 9.30am tan 3pm a bydd yn agored i bawb.

Bydd yn dod â mwy na 30 o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau addysgol ynghyd, gan roi cyfle i’r rhai sy’n bresennol ddarganfod gwahanol lwybrau gyrfa, prentisiaethau a chyrsiau hyfforddi.

Cewch gyfle i gymryd rhan mewn profiadau rhyngweithiol ac ymarferol, siarad yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol a dysgu am y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o rolau.

Mae sefydliadau ar draws ystod eang o sectorau wedi cofrestru i gymryd rhan, yn cynnwys adeiladu, cludiant, gofal cymdeithasol, y lluoedd arfog, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, gweithgynhyrchu, a gwallt a harddwch.

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu drwy bartneriaeth rhwng Cymunedau am Waith a Mwy, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â janiene.davies@flintshire.gov.uk