Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hwb o £1.5 miliwn i ganol trefi a chyfleusterau cymunedol Sir y Fflint
Published: 23/02/2026
Mae pecyn o £1.5 miliwn o welliannau i doiledau cyhoeddus, canol trefi a chyfleusterau chwaraeon wedi cael eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint.
Fe fydd y cyllid sydd wedi’i sicrhau drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU, yn darparu gwaith uwchraddio hollbwysig i gyfleusterau cymunedol gwerthfawr tra’n helpu i adfywio y stryd fawr ym mhob rhan o’r Sir.
Ymysg y prosiectau a fydd yn elwa y mae ailwampio’r toiledau cyhoeddus yn Nhalacre, Treffynnon a’r Wyddgrug. Fe fydd y buddsoddiad o tua £240,000 yn helpu i drosglwyddo’r cyfleusterau i gynghorau tref a chymuned.
Fe fydd £150,000 yn cael ei glustnodi i ailwampio’r cae chwaraeon yn Ysgol Alun yr Wyddgrug, i wella’r cyfleuster a chefnogi mwy o ddefnydd cymunedol.
Ym Mwcle, bydd £400,000 yn cael ei fuddsoddi i wella ymddangosiad a swyddogaeth canol y dref, yn rhan o gyflawni Cynllun Creu Lleoedd y dref.
Fe fydd busnesau’r stryd fawr ym mhob tref ar draws Sir y Fflint hefyd yn elwa o gynllun gwerth £460,000 i wella blaen siopau. Fe fydd hyn yn cefnogi busnesau i wella ymddangosiad a swyddogaeth eu heiddo a sicrhau y gellir defnyddio unedau gwag yng nghanol y dref unwaith eto.
Ni fydd y £250,000 olaf yn cael ei glustnodi hyd nes y bydd y costau terfynol ar gyfer pob cynllun yn hysbys. Yna bydd unrhyw falans sy’n weddill yn cael ei gyfeirio at brosiectau cymwys eraill.
Nod Cronfa Effaith Balchder Bro, a gyhoeddwyd yn Adolygiad Gwariant 2025 gan Lywodraeth y DU, yw ‘darparu gwelliannau gweledol i’r stryd fawr a gwella lleoedd a gofodau o werth cymunedol’.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn y llefydd sydd fwyaf pwysig i’n cymunedau.
“O amddiffyn cyfleustodau cyhoeddus hollbwysig i wella canol trefi a chyfleusterau cyhoeddus, fe fydd y cyllid yma’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Trwy weithio gyda’n cynghorau tref a chymuned a chefnogi masnachwyr lleol, rydym ni’n helpu i sicrhau bod ein stryd fawr a mannau cymunedol yn parhau’n llefydd croesawgar a hygyrch.”