Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cychwyn ar Welliannau i Ddoc Maes Glas yn sgil Cyllid Môr a Physgodfeydd Cymru
Published: 06/02/2026
Fe fydd gwaith yn dechrau’r wythnos nesaf ar raglen o welliannau iechyd a diogelwch yn Noc Maes Glas.
Fe fydd y prosiect, sydd wedi’i ariannu drwy Gronfa Môr a Physgodfeydd Cymru, hefyd yn cefnogi gweithrediadau casglu cocos a physgota masnachol sy’n digwydd ar y safle, sydd yn werthfawr i’r economi leol.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych i ardal y Doc ac i Barc Arfordir Sir y Fflint yn gyffredinol.
“Rydym eisiau cefnogi busnesau lleol sydd yn dibynnu ar Ddoc Maes Glas a gwella profiad ymwelwyr i bawb sy’n defnyddio’r Doc.
“Bydd gwella’r canolbwynt arfordirol yma at y dyfodol yn gwella iechyd a diogelwch, hygyrchedd, a’r cydbwysedd drwy weithgareddau hamdden a masnachol.
“Gobeithiwn y bydd pawb yn mwynhau’r Parth Cyhoeddus gwell, ac y gallwn ni groesawu defnyddwyr ac ymwelwyr yn ôl i’r canolbwynt arfordirol poblogaidd yma am flynyddoedd i ddod. Edrychwn ymlaen at weld y newidiadau.”
Mae’r gwaith gwella fod i ddechrau ddydd Llun 9 Chwefror 2026, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn canol mis Mawrth 2026.
Mae’r gwaith uwchraddio yn y Doc, sy’n cael ei ariannu’n allanol, yn cyd-fynd â gweledigaeth ehangach Parc Arfordir Sir y Fflint, sydd wedi’i nodi yng Nghynllun Rheoli’r Parc Arfordir.
Ei nod yw symud ymlaen o’n hetifeddiaeth diwydiant trwm a bydd yn darparu hafan lle gall bywyd gwyllt a natur ffynnu, a lle gall busnesau cynaliadwy flodeuo, gan gefnogi swyddi a gwirfoddoli a gwella cyrchfan bwysig i ymwelwyr.
I gael gwybodaeth am Gronfa Môr a Physgodfeydd Cymru, cliciwch yma.
Mae Cynllun Rheoli Parc Arfordir Sir y Fflint ar gael yma.