Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn gwella’r gefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Published: 23/01/2026
Mae aelodau'r Cabinet yn cynnig buddsoddiad sylweddol o £1.8 miliwn i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn dilyn adborth gan ysgolion ledled Sir y Fflint.
Bydd y cynnig yn gweld arbedion sy'n deillio o niferoedd disgyblion sy'n gostwng yn cael eu hailfuddsoddi'n uniongyrchol mewn darpariaeth ADY, gan gynyddu'r cyllid sydd ar gael i ysgolion yn 2026/27 o fwy na £1.5 miliwn. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu'n syth i gyllidebau ysgolion, gan roi mwy o hyblygrwydd i benaethiaid ddiwallu anghenion eu dysgwyr.
Yn ogystal, mae'r cyngor yn cynnig ymrwymo £300,000 i gefnogi dwy uned ADY, gan gryfhau ymhellach y ddarpariaeth arbenigol a sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: “Rydym wedi gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn y mae penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion wedi bod yn ei ddweud wrthym am yr heriau gwirioneddol y maent yn eu hwynebu wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Mae’r Cabinet yn deall y pwysau ar gyllidebau ysgolion a’r galw cynyddol am ddarpariaeth ADY, a dyna pam rydym wedi penderfynu ail-fuddsoddi arbedion yn uniongyrchol yn yr ysgolion. Drwy ddosbarthu’r cyllid hwn yn syth ymysg cyllidebau ysgolion, rydym yn ymateb i’r hyn y mae ysgolion wedi gofyn amdano ac yn sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi lle bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ddisgyblion.”
Bydd y cynnig yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Craffu Trosolwg Addysg, Ieuenctid a Diwylliant y cyngor yr wythnos nesaf cyn mynd gerbron y Cabinet i'w gymeradwyo'n derfynol.