Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynlluniau Creu Lleoedd wedi’u mabwysiadu ar gyfer dwy dref yn Sir y Fflint
Published: 20/01/2026
Mae cynlluniau beiddgar newydd a fydd yn llywio dyfodol dwy dref yn Sir y Fflint wedi’u cymeradwyo.
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i fabwysiadu Cynlluniau Creu Lleoedd yn ffurfiol ar gyfer Queensferry a Chei Connah.
Mae’r cynlluniau’n archwilio’r heriau sy’n wynebu’r ddwy dref ar hyn o bryd ac yn nodi blaenoriaethau a gweledigaeth hirdymor ar gyfer y ddwy dref. Ynghyd â phob cynllun, bydd cynllun gweithredu cynhwysol yn adlewyrchu’r adnoddau sydd ar gael, a fydd yn nodi partneriaid allweddol, ffynonellau cyllid ac amserlenni.
Mae’r blaenoriaethau a nodir yn y dogfennau’n cynnwys gwella mannau gwyrdd cyhoeddus a chanol trefi, dathlu ac adeiladu ar dreftadaeth a hunaniaethau’r trefi, a’u gwneud yn ardaloedd glanach, mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.
Mae’r penderfyniad i fabwysiadu’r ddau Gynllun Creu Lleoedd diweddaraf yn dilyn cymeradwyaeth cynlluniau ar gyfer Bwcle, Treffynnon a Shotton y llynedd. Mae’r ddau gynllun olaf, sy’n canolbwyntio ar Yr Wyddgrug a’r Fflint, wedi’u datblygu’n helaeth a disgwylir y byddant yn cael eu cwblhau’n ddiweddarach eleni.
Mae cyllid ar gyfer datblygu’r saith cynllun wedi dod o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae’r gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio’r Cyngor mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Mae angen y cynlluniau er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae’r Cynlluniau Creu Lleoedd hyn yn darparu gweledigaeth glir a rennir ar gyfer dyfodol Queensferry a Chei Connah, wedi’i siapio gan heriau a dyheadau lleol.
“Byddant yn ein helpu i ddenu buddsoddiad a chyflawni gwelliannau y mae preswylwyr, busnesau a budd-ddeiliaid lleol wedi dweud wrthym eu bod eisiau eu gweld.
“Rwy’n falch o weld y cynlluniau hyn yn cael eu mabwysiadu ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddwy gymuned i sicrhau eu bod yn arwain at fanteision hirdymor ystyrlon.”