Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ty Croes Atti yn agor ei ddrysau’n swyddogol

Published: 24/12/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod ei gartref gofal mwyaf newydd, Ty Croes Atti, wedi’i gwblhau. Mae hyn yn nodi carreg filltir bwysig yn narpariaeth gofal o ansawdd uchel i’r gymuned leol.

Mae’r cyfleuster o’r radd flaenaf bellach ar agor ac mae’r preswylwyr cyntaf wedi symud i mewn i ddechrau pennod nesaf eu bywydau mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Willmott Dixon a Llywodraeth Cymru ac mae’n darparu cartref i 56 o bobl hyn ar safle hen ysbyty cymunedol.Ty Croes Atti.png

Bydd BIPBC a thimau gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd integredig.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym wrth ein boddau o groesawu ein preswylwyr cyntaf i Dy Croes Atti. Mae’r cartref gofal newydd hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal a chefnogaeth rhagorol yn Sir y Fflint. Rydym yn falch o gynnig lle cynnes a chroesawgar lle gall preswylwyr deimlo'n gartrefol, yn ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.”

Mae agor Ty Croes Atti yn fuddsoddiad sylweddol yng ngofal cymdeithasol Sir y Fflint, gan sicrhau bod pobl hyn a’r rhai sydd angen cefnogaeth yn cael mynediad at wasanaethau gofal modern a lleol.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal a thrwy raglen gyfalaf Cyngor Sir y Fflint.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’n wych clywed bod y preswylwyr cyntaf wedi symud i mewn i’w cartref newydd o ansawdd uchel yn Nhy Croes Atti.

“Mae’r prosiect yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n cydweithio ac rwyf wrth fy modd bod ein cyllid wedi sicrhau ar gyfer Sir y Fflint y math o gapasiti cymunedol sydd ei angen arnom ar gyfer y modelau gofal integredig newydd yr ydym yn eu blaenoriaethu ar draws Cymru.”

Dywedodd Mike Lane, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Willmott Dixon: “Mae’n newyddion gwych fod preswylwyr cartref gofal Croes Atti wedi symud i mewn i’w cartref newydd. Mae ein tîm yn freintiedig o fod wedi treulio amser gyda phreswylwyr, eu teuluoedd a staff. Rydym yn falch o fod wedi chwarae ein rhan wrth helpu i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol o’r radd flaenaf i bobl Sir y Fflint.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu BIPBC, Tehmeena Ajmal: “Rwyf wrth fy modd bod Ty Croes Atti wedi croesawu ei breswylwyr cyntaf.

“Rydym yn falch o fod yn bartneriaid gyda Chyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a Willmott Dixon yn y datblygiad pwysig hwn. Mae’n tanlinellu ein hymrwymiad i’n cymunedau a chydweithio i ddarparu’r gofal priodol sydd ei angen arnynt.

“Mae Ty Croes Atti yn gam hanfodol arall ar y daith at ddarparu’r gofal cywir yn y lleoedd cywir, ar yr adeg gywir, i bobl gogledd Cymru.”

Rydym yn recriwtio gweithwyr gofal a chymorth i ymuno â’n tîm ymroddedig yn Nhy Croes Atti.  Rydym yn cynnig cyflwyniad sefydlu cynhwysfawr a rhaglen o hyfforddiant, a bydd aelodau newydd o’r tîm yn elwa o gefnogaeth ac arweiniad tîm rheoli profiadol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd cyffrous hyn, anfonwch e-bost at socialservicesrecruitment@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 733598.