Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiectau isadeiledd gwyrdd a chludiant ar y gweill yn Shotton

Published: 23/12/2025

Bydd Shotton yn elwa o raglen fawr o welliannau cludiant a buddsoddiad mewn isadeiledd gwyrdd, er mwyn gwneud y dref yn fwy diogel, yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau’r gwaith ar y prosiectau yn y flwyddyn newydd, gan gyflawni cyfres o welliannau ar draws llwybrau cludiant allweddol a mannau cyhoeddus ledled y dref.

Bydd y cynllun cludiant a phriffyrdd yn dechrau’n fuan ym mis Ionawr ac mae disgwyl i’r gwaith bara hyd at 26 wythnos. Mae'n cynnwys gosod cysgodfannau bysiau newydd, cael gwared ar rwystrau diangen a chreu pocedi troi i'r dde pwrpasol mewn cyffyrdd allweddol ar Charmleys Lane, Chester Close, Nelson Street a Jubilee Street, gan helpu i wella llif traffig. 

Mae gwelliannau wedi’u gwneud hefyd ar gyfer goleuadau stryd a goleuadau traffig, yn ogystal â gosod meinciau, bolardiau a biniau newydd ar draws yr ardal.

Fel un o brif elfennau’r cynllun bydd gwaith yn cael ei wneud i roi wyneb newydd ar y briffordd ar y B5129, rhwng Shotton Lane a Brook Road.

Mae’n anochel y bydd rhywfaint o amhariad wrth geisio rheoli traffig ar y llwybr prysur hwn. Er mwyn lleihau hyn, bydd y Cyngor a’i gontractwyr yn rhoi blaenoriaeth i waith oddi ar y ffyrdd yng nghamau cynnar y prosiect. Bydd y dull hwn yn lleihau lefel a hyd y gwaith rheoli traffig sydd ei angen ar y B5129.

Cynghorir defnyddwyr ffyrdd i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio drwy’r ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae cynnal a chadw a gwella ein rhwydwaith cludiant a phriffyrdd yn Shotton yn hanfodol, er mwyn sicrhau bod pobl yn symud mewn modd diogel ac effeithlon.

“Bydd y gwaith hwn yn mynd i’r afael â mannau prysur ar lwybrau allweddol ac yn gwneud siwrneiau dyddiol yn fwy diogel ac yn gwneud pethau’n haws i ddefnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.”

Yn y cyfamser, bydd prosiectau isadeiledd gwyrdd ym meysydd parcio Charmleys Lane ac Ash Grove a Gardd Goffa Henry Weale yn dechrau ar 12 Ionawr.

Mae’r mentrau hyn yn ffurfio rhan o waith ac ymrwymiad y Cyngor i Greu Lleoedd er mwyn gwella amgylcheddau lleol a lles cymunedol, a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy.

Bydd y prosiectau yn canolbwyntio ar ehangu mannau gwyrdd, gwella bioamrywiaeth, a chreu ardaloedd mwy hygyrch sy’n gyfoeth o natur ledled y dref. Maent yn cynrychioli buddsoddiad allweddol yng ngwydnwch amgylcheddol hirdymor Shotton ac ansawdd bywyd yno.

Mae'r datblygiadau hyn wedi bod yn bosibl trwy gyllid gan Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae’r prosiectau hyn yn nodi cam cyffrous ymlaen i Shotton.

“Trwy fuddsoddi mewn mannau cyhoeddus mwy gwyrdd, nid yn unig yr ydym yn gwella’r amgylchedd heddiw ond hefyd yn creu manteision a fydd yn para ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU am ein galluogi i wireddu’r mentrau pwysig hyn.”

Bydd y prosiectau isadeiledd gwyrdd yn cynnwys gwelliannau i fannau gwyrdd cyhoeddus gan gynnwys gwaith plannu newydd, coed, ac ardaloedd sy’n gyfoeth o natur sydd wedi’u llunio i gynyddu bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer a lleihau carbon.

Fe ychwanegir nodweddion amgylcheddol hefyd, sy’n canolbwyntio ar y gymuned, megis seddi newydd ac ardaloedd sydd wedi’u llunio ar gyfer lles.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd y cynlluniau hyn.