Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn cyrraedd targed ailgylchu o 70% ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn
Published: 22/12/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint ar y trywydd cywir i gyrraedd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70% ar ôl cyflwyno nifer o newidiadau i’w wasanaeth, gan gynnwys newid i gasglu’r biniau duon bob tair wythnos.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod y targed wedi’i gyrraedd yn y ddau chwarter cyntaf yn 2025/26, sy’n welliant mawr ar y blynyddoedd diwethaf.
O 2021 i 2024, ni wnaeth y Cyngor gyrraedd y targed statudol blaenorol o 64%, a arweiniodd at y posibilrwydd o ddirwyon mawr am dorri rheolau. Yn 2024/25, pan godwyd y targed i 70%, 63% oedd cyfradd ailgylchu Sir y Fflint, sy’n golygu bod y sir wedi bod yn is na’r targed am bedair blynedd yn olynol.
Fe weithredodd y Cyngor i wella perfformiad ailgylchu drwy fabwysiadu Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd ar gyfer 2024–2030, a oedd yn nodi sawl ymrwymiad i arwain Sir y Fflint tuag at economi gylchol, gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau a lleihau gwastraff. Er mwyn blaenoriaethu lleihau gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu, fe newidiwyd i gasglu gwastraff anailgylchadwy (bin du) bob tair wythnos ym mis Ebrill 2025 ar ôl cyfnod hir o ymgysylltu.
Mae mesurau eraill, gan gynnwys proses ‘gwastraff gweladwy’ a gyflwynwyd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref eleni, a gwaith sy’n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth am ailgylchu, hefyd wedi cael effaith arwyddocaol.
Wrth i ni symud tuag at economi gylchol, mae’n bwysig cydnabod pwysigrwydd ailgylchu i leihau allyriadau carbon a faint o wastraff sy’n cael ei anfon i’w losgi, a gwarchod ein hadnoddau naturiol drwy ailddefnyddio mwy o ddeunyddiau.
I gydnabod ymdrechion y Cyngor i wella perfformiad ailgylchu, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dileu’r ddirwy o £663,000 am fethu’r targed yn 2021/22, ond mae’n bosib’ iddynt hawlio’r dirwyon am y tair blynedd wedyn sydd werth mwy nag £1 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae’r canlyniadau cynnar yma’n galonogol iawn ac yn dangos bod y newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud yn cael yr effaith roeddem eisiau iddynt ei chael.
“Hoffwn ddiolch i’r preswylwyr am yr ymdrech maen nhw wedi’i gwneud i ailgylchu mwy ac addasu i’r trefniadau newydd.
“Pwrpas ein Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd yw gwneud beth sy’n iawn ar gyfer yr amgylchedd gan hefyd warchod y pwrs cyhoeddus ac osgoi rhagor o ddirwyon.”