
Mae cadwraethwyr yn dathlu llwyddiant 30 mlynedd ers dechrau ail-gyflwyno amffibiad prinnaf Cymru, y Llyffant Cefnfelyn. Mae hwn yn llyffant arbennig sy’n rhedeg i hela am fwyd, mae ganddo streipen felen i lawr ei gefn a chaiff ei adnabod fel amffibiad mwyaf swnllyd Ewrop, diolch i’w wddf mawr y mae’n ei ddefnyddio i alw ar lyffantod benywaidd yn ystod y tymor bridio.
Yn y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Gronant a Thalacre yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych, daeth grwp o wirfoddolwyr ynghyd i gynllunio rhaglen ail-gytrefu yn defnyddio cytrefi mawr llwyddiannus yng Ngwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Ainsdale a Sefton ar arfordir Sefton, Glannau Mersi.
Gweithiodd Cyfoeth Naturiol Cymru, ceidwaid arfordrol Sir y Fflint a Chilgwri, ENI ac ARC gyda Grwp Bywyd Gwyllt Trefol Glannau Dyfrdwy ac ecolegwyr Sir y Fflint i ddod â 22,000 o benbyliaid o Sefton ac Ainsdale dros gyfnod o 5 mlynedd o 1995, i byllau bas neu byllau a grëwyd yn arbennig yn y twyni gorllewinol yn Nhalacre.
Ym 1997, fe welodd Tîm Ceidwaid Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint y Llyffantod Cefnfelyn aeddfed cyntaf yn dychwelyd i fridio yn y pwll bas a labelwyd yn Bwll Bas 1. Oherwydd eu nodweddion corfforol amlwg, rhoddodd y tîm lysenwau i’r tri a welwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf honno, sef Smudge, Gappy ac One Eye.
Wrth i’r gwaith ar yr arfordir ddatblygu, sefydlwyd partneriaeth newydd gyda pharc carafanau Presthaven Sands, ac yn 2003, trawsleolwyd 11,000 o benbyliaid o byllau bas Talacre i’r pyllau newydd a grëwyd ar ochr Gronant o’r system dwyni. Gwnaed cynlluniau hefyd i barhau â’r broses drawsleoli hon i dwyni arfordrol Sir Ddinbych ac fe grëwyd pyllau bas yno hefyd. Tair blynedd ar ôl eu cyflwyno, gwelwyd llyffantod yng Ngronant a buan iawn y gwnaethant ddechrau bridio yno, ac fe aeth y rhywogaeth o nerth i nerth.
Ers hynny, mae llawer iawn o wirfoddolwyr a Cheidwaid Sir y Fflint wedi gweithio ochr yn ochr â staff Eni a Presthaven Sands i ddiogelu a datblygu’r cynefin a’r llyffantod rhag ysglyfaethwyr, pwysau gan ymwelwyr a thywydd newidiol.
Mae gweithio gyda Llyffantod Cefnfelyn wedi rhoi cymaint o foddhad oherwydd eu bod yn un o’r rhywogaethau mwyaf annwyl. Mae cael ein cydnabod fel y rhaglen ail-gyflwyno fwyaf llwyddiannus ar gyfer Llyffantod Cefnfelyn yn y DU wir yn anrhydedd,” meddai Kim Norman, Ymgynghorydd Rheoli Tir Eni UK. “Ymunais â’r prosiect yn 2001, pan yr oedd Talacre eisoes yn dogfennu llinynnau grifft o’r wyau cychwynnol a phenbyliaid a adleoliwyd yn y 90au hwyr. Ers hynny, mae’r boblogaeth wedi tyfu’n raddol, gyda niferoedd ar eu huchaf ar 248 o linynnau grifft a 218 o lyffantod aeddfed yn y blynyddoedd diweddar.
Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi ni i ymgysylltu ag ysgolion, y gymuned leol, gwirfoddolwyr, myfyrwyr ymchwil, gweithwyr a phartneriaid busnes. Mae’r Llyffantod Cefnfelyn wedi rhoi’r llwyfan delfrydol i ni ymgysylltu ac annog pobl i gymryd diddordeb yn eu hamgylchedd lleol arbennig iawn yma yn Nhalacre.
Ar ôl bron i 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda Llyffantod Cefnfelyn, cydnabu Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint y potensial ar gyfer cytref newydd ar safle oddi wrth y twyni tywod a gwnaed paratoadau ar gyfer y cam nesaf i sicrhau parhad amffibiad prinnaf Cymru. Roedd y safle, a elwir yn lleol fel Bettisfield yn Bagillt, hen safle glofa sydd yn awr yn ofod cefn gwlad hardd, yn nodedig am y glaswelltir ger y morfa heli gan ei wneud yn le delfrydol ar gyfer y llyffantod prin hyn. Crëwyd pyllau bas, adeiladwyd ffens o amgylch yr ardal a mewnforiwyd tywod i wneud yr ardal mor addas â phosibl. Yn 2013, cyflwynwyd y penbyliaid llyffant cefnfelyn ac yn 2016, gwelwyd llyffantod cefnfelyn aeddfed. Rhoddwyd y llysenw ‘streipen gam’ i’r llyffant gwryw cyntaf ar y safle hwn, am resymau amlwg!
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad y Safle: “Mae llawer o waith yn cael ei wneud bob blwyddyn i gynnal y cynefin ar gyfer y llyffantod ac mae eu niferoedd yn cael eu monitro’n agos oherwydd bod heriau newydd yn dod i’r amlwg o hyd. Eleni, gwelwyd poblogaeth o grancod yn un o’r pyllau bas ac roedd yn rhaid eu dal a’u symud yn ôl i’r morfa helir. Er hynny, mae’n werth yr holl ymdrech, yn enwedig pan yr ydych yn clywed y llyffantod gwrywaidd yn canu fel côr, yn aros i’r llyffantod benywaidd gyrraedd.”
Mae’r boblogaeth yn Bettisfield wedi cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd gyda thymor bridio llwyddiannus yn 2024 yn arwain at 10 o linynnau grifft yn cael eu cofnodi. Cafodd Talacre flwyddyn dda hefyd, gyda dros 100 o linynnau, sy’n awgrymu o leiaf 100 o lyffantod benywaidd yn bridio.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin: “Mae partneriaethau fel hyn mor bwysig i edrych ar ôl y bywyd gwyllt sydd gennym ar garreg ein drws. Hoffwn hefyd ddiolch i Eni a Presthaven Sands am eu cefnogaeth yn y partneriaethau hyn ac am yr holl waith mae eu staff a’u gwirfoddolwyr yn ei wneud bob blwyddyn. Diolch hefyd i ARC am eu cefnogaeth barhaus i’r holl sefydliadau eraill sydd ynghlwm â’r gwaith. Ni ddylid anghofio, roedd y llyffantod arbennig hyn wedi diflannu o Gymru ar un adeg ac maent yn awr yn ffynnu yma yng Ngogledd Cymru ac yn enwedig yn Sir y Fflint.”