Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gallai cynllun gweithredu atal hunanladdiad gael ei ddatblygu ar gyfer Sir y Fflint
Published: 15/12/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint i ddechrau gwaith ar gynllun gweithredu ar draws y sir wedi ei anelu at atal hunanladdiadau a hunan-niweidio, os yw’r cabinet yn cefnogi’r cynnig.
Byddai’r cynllun gweithredu arfaethedig yn adeiladu ar Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd Llywodraeth Cymru o 2025 i 2035 gan helpu i roi’r ymagwedd genedlaethol ar waith ar lefel leol.
Bydd Cabinet y cyngor yn cael cais i gymeradwyo’r strategaeth a chefnogi creu cynllun gweithredu lleol cynhwysfawr, wedi ei ganoli ar ei chwe amcan allweddol – gwrando a dysgu, atal, grymuso, cefnogi, darparu ac ymateb.
Gyda’i gilydd mae’r amcanion hyn wedi eu dylunio i gynyddu dealltwriaeth a mynd i’r afael â materion sy’n cynyddu risg unigolion o hunanladdiad a hunan-niwed.
Maent hefyd yn anelu i wella cefnogaeth ar gyfer y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan hunan-niwed a hunanladdiad, gan gynnwys ffrindiau ac aelodau o’r teulu.
Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd Glyn Banks, yr Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant a’r Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai a Chymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Banks: “Gan fod gen i ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad, rydw i wedi gweld gyda fy llygad fy hun sut mae’n effeithio’n ddwfn ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau.
“Fel cyngor rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan mewn atal drwy gynyddu ymwybyddiaeth, darparu’r hyfforddiant cywir i staff a gweithio’n agos gyda sefydliadau partner fel bod y gefnogaeth gywir ar gael pan fo pobl ei hangen.
Dywedodd y Cynghorydd Brown: “Yn drist mae sawl hunanladdiad ac ymdrechion i gyflawni hunanladdiad wedi bod yn lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi cael effaith barhaus ar ein cymunedau.
“Rydw i’n hynod o falch y byddwn ni yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu cynllun gweithredu lleol i gyflawni’r strategaeth genedlaethol newydd.
“Bydd yn helpu i sicrhau fod atal hunanladdiad yn cael ei wreiddio ar draws ein holl wasanaethau, fel y gall pobl ar hyd a lled Sir y Fflint gael at gefnogaeth amserol a phriodol.
Os oes angen cefnogaeth arnoch gyda’ch iechyd meddwl, gallwch:
· Ffonio Llinell Gymorth CALL: 0800 132 737
· Neu ffonio’r Samariaid: 116 123
Am gymorth brys ffoniwch y GIG ar 111 a phwyso 2.
Os ydych chi wedi eich effeithio gan hunanladdiad, fe allwch gael cefnogaeth yn rhad ac am ddim gan Wasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru: 08000 487742