Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu setliad drafft diwygiedig yn dilyn lobïo parhaus

Published: 10/12/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu setliad drafft llywodraeth leol ddiwygiedig Llywodraeth Cymru, yn dilyn galwadau parhaus gan Sir y Fflint am ddull tecach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y gyllideb ddrafft ddiwygiedig yn cynnwys £112.8 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol.

Mae’r setliad diwygiedig yn cynnwys cyllid gwaelodol newydd, gan sicrhau nad oes yr un Cyngor yn derbyn llai na 4% o gynnydd, gyda chodiad cyfartalog o 4.5%.

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a chyllid cyfalaf ychwanegol i’w ddyrannu gan y llywodraeth nesaf ar ôl etholiad y Senedd. 

Mae Sir y Fflint wedi bod yn llais cryf parhaus i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn y fformiwla ariannu. Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau eraill i gyflwyno ffrynt unedig a gwneud achos cryf, unedig am ariannu tecach.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dave Hughes, mae’r ffigyrau diwygiedig yn dangos dyfalbarhad Sir y Fflint i helpu siapio polisi cenedlaethol.

Ychwanegodd: “Fe wnaethom groesawu’r setliad drafft diwygiedig sy’n cynrychioli cam sylweddol ymlaen ar gyfer Cynghorau megis Sir y Fflint sydd wedi cael eu tanariannu am nifer o flynyddoedd.

“Dros y misoedd diwethaf, rydw i a fy nghydweithwyr ar y Cabinet wedi bod yn glir gyda’r gweinidogion am yr angen am ddull tecach sy’n cydnabod y pwysau sylweddol rydym yn ei wynebu i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

“Mae’r setliad diwygiedig yn dangos bod lobïo cyson wedi helpu i siapio’r canlyniad hwn. Er nad yw’n datrys ein holl heriau, ac er ein bod yn parhau i wynebu diffyg cyllid, mae’n gam i’r cyfeiriad cywir. Nid yw ein gwaith yn stopio yma, a byddwn yn parhau i bwyso am system ariannu sy’n darparu tegwch i Sir y Fflint.”

Bydd y ffigyrau diwygiedig yn cael eu dadansoddi wrth i’r Cyngor barhau i ddatblygu ei gyllideb ar gyfer 2026/27.