Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bydd casgliadau gwastraff gardd yn cael eu hymestyn o'r gaeaf nesaf ymlaen

Published: 09/12/2025

AdobeStock_466301423-min.jpeg

Bydd casgliadau gwastraff gardd ledled Sir y Fflint yn ehangu dros fisoedd y gaeaf o fis Rhagfyr 2026 ymlaen, os bydd y newid yn cael ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd biniau brown yn cael eu casglu unwaith y mis yn ystod mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror i’r aelwydydd sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth. Ni fydd unrhyw newid i’r casgliadau bob pythefnos cyfredol rhwng mis Mawrth a Thachwedd.

Bydd y Cabinet yn cyfarfod yr wythnos nesaf i bleidleisio ar y cynigion, a drafodwyd gan Bwyllgor Craffu yr Economi a’r Amgylchedd heddiw.

Bydd y gwasanaeth gydol y flwyddyn a gynllunnir yn helpu trigolion i reoli eu gwastraff gardd yn well dros y gaeaf, gan ostwng yr angen i gael gwared â phethau megis dail sy’n disgyn a thoriadau gwrychoedd mewn biniau du gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Mae’r adroddiad i’r Cabinet yn cynnig ffi flynyddol o £38 ar gyfer casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2026/27, a dileu’r ffi is o £35 i’r rhai sy’n cofrestru ar-lein neu erbyn 1 Mawrth. Cafodd y tâl ei gynyddu ddiwethaf yn 2024.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant, y Cynghorydd Glyn Banks: “Rwy’n falch o gyflwyno’r cynllun hwn i ehangu ein casgliadau dros fisoedd y gaeaf am y tro cyntaf.

“Bydd hyn yn helpu trigolion i reoli eu gwastraff gardd trwy gydol y flwyddyn, a’i atal rhag mynd i mewn i finiau du dros y gaeaf.

“Mae’r ffi newydd o £38 yn cynrychioli cynnydd bychan yn unig i’r rhai a gymerodd fantais yn flaenorol o’r gyfradd gynnar ac ar-lein.

“Bydd y newid hwn yn caniatáu i ni ddarparu’r gwasanaeth estynedig gydol y flwyddyn wrth gadw costau mor isel â phosib i’n trigolion.”

Bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhellion ddydd Mawrth nesaf, 16 Rhagfyr.