Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch Sceptre: Busnesau Sir y Fflint yn pasio prawf gwerthu cyllyll i bobl dan oed

Published: 20/11/2025

Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi cymryd rhan yn Ymgyrch Sceptre yn ystod wythnos genedlaethol gweithredu yn erbyn troseddau cyllyll. 

Roedd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru lle ymwelodd gwirfoddolwyr dan oed â nifer o safleoedd ledled y sir. 

Ar bob achlysur, gwrthododd busnesau werthu cyllyll i'r gwirfoddolwyr ifanc, gan ddangos cydymffurfiaeth gref â chyfreithiau cyfyngiadau oedran ac ymrwymiad i ddiogelwch cymunedol yn Sir y Fflint.

Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer, aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Diogelu'r Cyhoedd: “Rydym yn hynod falch o ganlyniadau’r ymarfer hwn. Mae'n hanfodol nad yw cyllyll yn dod i ddwylo pobl ifanc ac mae'r gwiriadau hyn yn dangos bod busnesau lleol yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif. 

“Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu i sicrhau bod busnesau’n cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfio â’r gyfraith yn cael ei oddef. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu a manwerthwyr i gadw ein cymunedau'n ddiogel.”

Roedd yr ymarfer yn rhan o ymdrechion parhaus Heddlu Gogledd Cymru i leihau troseddau cyllyll. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau ac atgyfnerthu pwysigrwydd cydymffurfio.

I gael rhagor o wybodaeth am Safonau Masnach, ewch draw i’n gwefan.