Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Twristiaeth Sir y Fflint yn cynyddu tu hwnt i £400 miliwn wrth i niferoedd ymwelwyr barhau i gynyddu
Published: 20/11/2025

Ffynnodd ddiwydiant twristiaeth Sir y Fflint yn 2024, gan gynhyrchu £402.26 miliwn, a gan atynnu mwy na phedwar miliwn o ymwelwyr i’r sir.
Mae’r adroddiad STEAM diweddaraf (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor) yn dangos cynnydd 5.8 y cant mewn gwariant gan ymwelwyr o’i gymharu â 2023. Roedd twf yn cael ei lywio'n bennaf gan ymwelwyr dydd, sef cynnydd o 2.8 y cant, gydag ymwelwyr sy’n aros yn parhau i fod yn sefydlog.
Treuliodd ymwelwyr gyfanswm o 7.04 o ddiwrnodau yn y sir - cynnydd o 0.8 y cant ers y flwyddyn flaenorol - gan arddangos cryfder parhaus cynnig twristiaeth Sir y fflint, a’i apêl fel lle i ymweld, archwilio a mwynhau.
Er y gwelodd rhai ardaloedd ostyngiadau bach, gan gynnwys gostyngiad 0.8 y cant mewn dyddiau lle arhosodd ymwelwyr a gostyngiad o 2.1 y cant mewn swyddi sy’n cael eu cefnogi gan dwristiaeth cyfateb i lawn amser (3,358 rwan), mae’r darlun cyffredinol yn parhau i fod yn gadarnhaol iawn.
Mae twristiaeth yn chwarae rôl hanfodol mewn cefnogi economi Sir y Fflint, cymunedau lleol, a channoedd o fusnesau bach ledled y sir.
Meddai Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth, y Cynghorydd Chris Dolphin: Rydym yn falch o weld blwyddyn arall o dwf mewn niferoedd ymwelwyr a gwariant ar draws Sir y Fflint. Mae’r cynnydd mewn ymwelwyr dydd a chynnydd cyffredinol i effaith economaidd yn adlewyrchu cryfder ein hatyniadau, lletygarwch a busnesau lleol.
“Er ein bod yn cydnabod bod nifer yr ymwelwyr sy’n aros wedi gostwng, rydym yn ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid i annog arosiadau hirach ac adeiladu ar y cynnydd gwych a ddangoswyd hyd yma. Mae twristiaeth yn parhau i fod yn gonglfaen ein heconomi leol, ac rydym yn falch o’r gwaith caled sy’n parhau i wneud Sir y Fflint yn gyrchfan croesawgar a bywiog.”
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio’n agos gyda busnesau twristiaeth lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid rhanbarthol i ddarparu’r Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir y Fflint. Mae’r cynllun yn bwriadu tyfu’r economi ymwelwyr yn gynaliadwy, gan hyrwyddo’r nodweddion unigryw y sir, a gwneud y mwyaf o fuddion twristiaeth ar gyfer preswylwyr a chymunedau.
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar brosiectau a ddyluniwyd i annog arosiadau hirach, gwella dewisiadau llety, a gwella profiadau ymwelwyr, gan sicrhau bod Sir y Fflint yn rhan allweddol o gynnig twristiaeth ffyniannus Gogledd Cymru.
O’i drefi marchnad hanesyddol ac aber hyfryd Afon Dyfrdwy, i gerdded llwybrau, safleoedd treftadaeth a phrofiadau bwyd lleol, mae Sir y Fflint yn parhau i atynnu ymwelwyr sydd eisiau profiadau go iawn a chofiadwy drwy’r flwyddyn.