Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ail-wynebu Ffordd Gerbydau B5444 Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug
Published: 06/11/2025

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i gyflawni gwaith ail-wynebu ffordd gerbydau yn B5444 Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug.
Bydd y gwaith yn digwydd rhwng The Cross a Gas Lane gan ddechrau ddydd Llun, 10 Tachwedd am oddeutu wythnos (ni fydd gwaith yn ystod y penwythnos).
Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 7pm ac 1am (gweithio’n ystod y nos) er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y briffordd.
Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.
Mae Cyngor Sir y Fflint a’r contractwr, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu anghyfleustra sy’n deillio o’r gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.