Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynghorydd Ray Hughes
Published: 28/10/2025

Yn anffodus bu farw'r Cynghorydd Ray Hughes o Sir y Fflint yn 88 oed ddydd Sadwrn.
Roedd Cynghorydd Hughes yn aelod mawr ei barch o'r Cyngor, ac roedd yn adnabyddus am ei ymroddiad i wasanaethu'r cyhoedd a'i ymrwymiad i'w gymuned yng Nghoed-llai.
Cafodd sawl rôl ar y Cyngor ers iddo gael ei ethol yn 2008, ac roedd yn falch o wasanaethu fel Cadeirydd yn 2015 gyda'i ddiweddar wraig Gwenda yn Gydymaith iddo. Cyn iddo wasanaethu ar Gyngor Sir y Fflint, bu'n Gynghorydd ym Mwrdeistref Delyn rhwng 1990-1996, a bu'n aelod o Gyngor Cymuned Coed-llai am fwy na 50 mlynedd.
Y tu allan i fywyd y Cyngor, fe wasanaethodd Cynghorydd Hughes fel Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gynradd Derwenfa yng Nghoed-llai ac Ysgol Uwchradd Castell Alun, Yr Hôb. Roedd hefyd yn aelod o sawl pwyllgor a grwp codi arian, gan gynnwys rheolwr tîm pêl-droed lleol, Arweinydd Ieuenctid, Ysgrifennydd Clwb Rasio Colomennod, Cadeirydd Cymdeithas Garnifal Coed-llai, a Llywydd Cymdeithas Rhandir Coed-llai.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Dave Hughes: "Roedd y Cynghorydd Hughes yn gefnogwr gwirioneddol ar gyfer ei gymuned yng Nghoed-llai. Roedd yn poeni am bobl leol ac fe weithiodd yn galed i wneud gwahaniaeth. Y tu hwnt i'w waith fel Cynghorydd, roedd yn dad a thaid annwyl a hoffus ac fe roddodd ei amser i elusennau a grwpiau a fyddai o fudd i'r gymuned leol."
"Fe fydd yna golled ar ôl y Cynghorydd Hughes ymysg ei gydweithwyr a ffrindiau yng Nghyngor Sir y Fflint ac mae ein meddyliau gyda'i deulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn."
Fel arwydd o barch i'r Cynghorydd Hughes, fe fydd y baneri y tu allan i Dy Dewi Sant yn cael eu chwifio'n isel.