Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc Arfordir Sir y Fflint yn Dathlu Hwb Ariannol i Wella Diogelwch Doc Maes Glas
Published: 27/10/2025

Mae Tîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn hwb arall i’w ymdrechion i wella Arfordir Sir y Fflint, gyda dyraniad o £96,960 o gyllid allanol gan Gronfa Forol a Physgodfeydd Cymru.
Mae’r dyfarniad yn nodi cam arall ymlaen i wella ‘Parc Arfordir Sir y Fflint’. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer asesiadau a gwelliannau diogelwch ar y tir. Mae Doc Maes Glas yn lleoliad prysur ar gyfer casglu cocos, pysgota a phobl yn cerdded, mynd ar olwynion a beicio ar Lwybr yr Arfordir, gan gynnig golygfeydd gwych o’r Aber ac mae’n boblogaidd trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r Doc yn lleoliad pwysig ar gyfer pysgota a chasglu cocos masnachol, gan greu swyddi ar gyfer yr economi. Mae hefyd yn denu pysgota hamdden ac yn cynnig mynediad hawdd ar gyfer pobl i fwynhau’r amgylchedd naturiol, i wella eu hiechyd a lles.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth Cyngor Sir y Fflint, ‘Mae’r cyllid hwn yn dod ar adeg pan mae cyllid allanol hyd yn oed yn fwy hanfodol. Bydd yn ein galluogi ni i symud ymlaen gyda’n dyhead ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint gwell, wrth ddiogelu defnyddwyr ac ymwelwyr - sef enaid ein harfordir. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gallent barhau i fwynhau’r arfordir yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond dim ond trwy geisiadau am gyllid allanol y gall ein gweledigaeth ddod yn realiti.’
Dywedodd Tom Woodall, Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol, ‘Bydd Doc Maes Glas yn elwa o £96,960.00 gan Gyllid Morol a Physgodfeydd Cymru Llywodraeth Cymru i wella Parc Arfordir Sir y Fflint ymhellach.’
Mae Parc Arfordir Sir y Fflint yn ymestyn ar draws arfordir Sir y Fflint o Saltney i Dalacre, gan gynnwys Porth y Gogledd a Garden City, Cei Connah a Shotton, y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Llannerch-y-môr a Mostyn, a Gronant.
I gael manylion am y cyllid, ewch i Llyw.Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Arfordir a Chefn Gwlad Sir y Fflint, ewch i'r wefan.
Dysgwch fwy am ‘Brosiect Cysylltu’r Arfordir a Chefn Gwlad’ Parc Arfordir Sir y Fflint.