Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn Gwella ei Sgôr Gweithredu ynghylch yr Hinsawdd
Published: 15/10/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn esgyn yn nhabl Sgoriau Gweithredu ynghylch yr Hinsawdd 2025.
Mae Climate Emergency UK yn asesu’r holl gynghorau yn y Deyrnas Unedig yn ôl y camau maent yn eu cymryd i fod yn ddi-garbon net ac ymateb i newid hinsawdd. Yn 2025, cafodd Cyngor Sir y Fflint sgôr o 39% a chodi i’r chweched safle drwy Gymru, ychydig islaw awdurdodau lleol fel Caerdydd, Abertawe a Gwynedd.
Ar sail tystiolaeth gyhoeddus o’r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Hydref 2024, roedd yr asesiad yn cynnwys ateb hyd at 93 o gwestiynau ym meysydd Adeiladau a Gwresogi, Cludiant, Cynllunio a Defnyddio Tir, Llywodraethu a Chyllid, Bioamrywiaeth, Cydweithio ac Ymgysylltu, Lleihau Gwastraff a Bwyd.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi codi o’r wythfed i’r chweched safle ers 2023, pan gafwyd sgôr o 34%. Dengys hyn y cynnydd y mae’r Awdurdod Lleol yn ei wneud â’i Strategaeth Newid Hinsawdd a’i fod yn sicrhau y darperir gwybodaeth amrywiol i’r cyhoedd ynglyn â’r camau mae’n eu cymryd i ddefnyddio llai o garbon.
Cafwyd y gwelliant mwyaf ym meysydd Llywodraethu a Chyllid a Bioamrywiaeth, ond enillwyd pwyntiau ychwanegol hefyd ar gyfer Adeiladau a Gwresogi a Chludiant. Yng nghategori’r Cynghorau Un Haen, mae Cyngor Sir y Fflint bellach yn bumed yng Nghymru mewn Llywodraethu a Chyllid ac yn ail yng Nghymru a chydradd seithfed drwy Brydain am Fioamrywiaeth. Daw hyn o ganlyniad i gynnwys carbon mewn Asesiadau Effaith Integredig sy’n sail ar gyfer penderfyniadau, defnyddio dulliau sy’n glên i fyd natur yn lle chwistrellu chwynladdwyr a phlaladdwyr, a sicrhau fod adroddiadau cynllunio’n craffu ar ecoleg.
Diwygiodd Cyngor Sir y Fflint ei Strategaeth Newid Hinsawdd yn 2025 ac mae’n dal i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ei allyriadau nwyon ty gwydr a’i effaith ar yr hinsawdd. Nid yn unig fod hynny’n cyfrannu at arafu cynhesu byd-eang, ond mae hefyd yn gymorth i addasu wrth i dywydd eithafol ddod yn fwy cyffredin ac mae’r ardal leol yn elwa ar gartrefi mwy effeithlon a gwell mynediad at fyd natur.
DYFYNIAD: Meddai’r Cynghorydd Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:
“Mae’n fendigedig fod y sgoriau diweddaraf ar gyfer Gweithredu ynghylch yr Hinsawdd yn cydnabod ymdrechion Cyngor Sir y Fflint. Nid yn unig bod yr hyn y mae swyddogion gydol yr Awdurdod yn ei wneud yn helpu i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, mae hefyd yn gwneud Sir y Fflint yn lle gwell i fyw ynddo. Rwy’n edrych ymlaen at weithio â’r timau hyn a gweld sut mae’r Cyngor yn dal ati â’r gwaith hanfodol yma, yn gwella bywydau pobl ac yn dal i ennill clod am ei waith.”
I gael gwybod mwy am y Sgoriau Gweithredu ynghylch yr Hinsawdd a’r hyn y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud ynghylch yr Hinsawdd, ewch i www.councilclimatescorecards.uk a’r hafan newid hinsawdd ar wefan y Cyngor.