Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sicrhau cyllid i ailwynebu B5125 Brychdyn

Published: 01/10/2025

Sicrhawyd cyllid i roi wyneb newydd ar yr B5125 Chester Road, Brychdyn.

Bydd y gwaith, a fydd yn cael ei wneud rhwng cylchfan Manor Lane a chylchfan Brychdyn, yn cymryd tua un wythnos ac mae fod i ddechrau heddiw (dydd Mercher, 1 Hydref) - os bydd y tywydd yn caniatáu. 

Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 6.30pm a 6am er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y briffordd. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Tarmac Trading Ltd yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu darfu a achosir yn ystod y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.