Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Saith mlynedd o’r rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’ yn Sir y Fflint

Published: 30/09/2025

Cofrestrodd dros 390 o blant oedran cynradd ac uwchradd Sir y Fflint i fynychu’r rhaglen Bwyd a Hwyl eleni a gynhaliwyd mewn 10 o ysgolion ledled y sir yn ystod tair wythnos gyntaf gwyliau’r haf.

Yn ystod 12 diwrnod y cynllun, cafodd y disgyblion gynnig brecwast iach, byrbryd a chinio poeth. Rhoddwyd dros 500 o boteli dwr y gellir eu hailddefnyddio yn rhodd gan Wall-Lag (Cymru) er mwyn sicrhau nad oedd y disgyblion yn mynd yn sychedig.

Rhedodd Ysgol Bryn Garth, Ysgol Bryn Gwalia, Ysgol Gynradd Queensferry, Ysgol Gynradd Golfftyn, Ysgol Treffynnon, Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd, y rhaglen eto. Yn ymuno â nhw am y tro cyntaf oedd Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn ac Ysgol Merllyn.

Yn ogystal â dysgu am fwyta’n iach, mwynhaodd y disgyblion sesiynau blasu bwyd a rhoddwyd cyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau coginio. Gwahoddwyd disgyblion i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cyfoethogi gan gynnwys pyrograffeg, ysgythru ar lechi, gwehyddu helyg, arbrofion gwyddoniaeth Xplore, sgiliau syrcas, codio ac ystod wych o weithgareddau corfforol, gan gynnwys dringo wal greigiog, sglefrfyrddio, chwarae tennis ac osgoi’r bêl.

Daeth Heddlu Gogledd Cymru i ymweld â’r lleoliadau, gan gynnig cyfle i’r disgyblion eistedd yn fan yr heddlu, gwisgo’r wisg a sgwrsio gyda swyddogion.  

Cynlluniwyd yr amserlen weithgareddau gan y staff gan ganolbwyntio ar faeth, gweithgarwch corfforol a lles cadarnhaol.

Nawr yn ei seithfed flwyddyn, cyflwynir y Rhaglen Bwyd a Hwyl gan Gyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Hamdden Gwella, Arlwyo NEWydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae’n wych gweld cynifer o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y rhaglen Bwyd a Hwyl eleni. Mae cannoedd o ddisgyblion wedi mwynhau prydau iach, gweithgareddau a chefnogaeth dros yr haf, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yn ystod gwyliau’r haf. Hoffwn ddiolch i’r holl staff a phartneriaid sy’n gysylltiedig â helpu i ddarparu profiad mor gadarnhaol a gwerthfawr.”

Arweiniwyd y rhaglen gan y tîm Ysgolion Bro mewn tair ysgol eleni, sef Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Ysgol Uwchradd Dewi Sant ac Ysgol Pen Coch. Gan weithio ochr yn ochr â staff o’r ysgolion, fe hwyluson nhw amserlen lawn ac amrywiol o weithgareddau a phrofiadau i ddisgyblion, ymgysylltu â’r rhieni ar y diwrnodau cinio i rieni a sicrhau bod y rhaglen yn rhedeg yn esmwyth.

Cofrestrodd dros 60 o ddisgyblion ar gyfer y rhaglen Bwyd a Hwyl yn yr ysgolion arbennig, Pen Coch a Maes Hyfryd, gan roi seibiant bach i rieni yn ystod gwyliau’r haf a chaniatáu i ddisgyblion barhau â’u patrwm dyddiol a chymryd rhan yng nghynlluniau’r haf a hwylusir gan y Cyngor.