Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgysylltu Heddiw i Drawsnewid Yfory - Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu Ddrafft
Published: 29/09/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i dderbyn adborth ar ei Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft newydd - Ymgysylltu Heddiw i Drawsnewid Yfory.
Nod y Strategaeth yw nodi’n glir ac yn syml sut y gall pobl gymryd rhan, dweud eu dweud ar bethau sy’n bwysig iddynt a helpu i wella gwasanaethau presennol y Cyngor yn ogystal â helpu i siapio sut fydd gwasanaethau’n edrych yn y dyfodol.
Bydd yr adborth a dderbynnir o gymorth i ddatblygu fersiwn derfynol y Strategaeth.
Fe agorodd yr ymgynghoriad ar 29 Medi a bydd yn dod i ben ar 9 Tachwedd 2025. Mae’n agored i bawb gael dweud eu dweud.
Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae oriau agor i’w gweld ar wefan y Cyngor neu trwy ffonio 01352 703020.
Bydd cymorth hefyd ar gael ar Lyfrgell Deithiol Gwella ar y dyddiadau canlynol:
30 Medi / 2, 15, 27, 22, 24 Hydref / 4, 6 Tachwedd 2025.
Meddai’r Cynghorydd Linda Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid:
“Rydw i’n gredwr cryf mewn cymuned a gyda’n gilydd gallwn gyflawni pethau gwych. Dyna pam ei bod hi’n bwysig bod pobl Sir y Fflint yn cael pob cyfle i gael dweud eu dweud ar bethau sydd yn effeithio ar eu bywydau ac i weithio gyda’r Cyngor wrth helpu i ddatblygu a gwella’r gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn.
“Mae hi’n bwysig bod pob llais yn cael ei glywed a bod pobl yn cael eu cefnogi i allu cymryd rhan mewn ffyrdd sydd wedi gweddu orau i’w hanghenion.
“Rydym wedi ymrwymo i wrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym ni a buaswn yn annog preswylwyr o bob ardal yn y Sir i gymryd rhan.”
Mae rhagor o wybodaeth a dolen i’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor: www.flintshire.gov.uk/YHDY-ETTT