Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaethau gofal cymdeithasol plant Sir y Fflint yn parhau i ddatblygu a gwella
Published: 16/09/2025
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r gwiriad gwella diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Canfu’r gwiriad, a oedd yn canolbwyntio ar feysydd a nodwyd yn ystod yr arolwg llawn diwethaf ym mis Tachwedd 2023, gynnydd cadarn gan adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel i deuluoedd a phlant.
Nododd arolygwyr AGC welliant parhaus o safbwynt arweinyddiaeth, arferion diogelu, sefydlogrwydd y gweithlu ac ansawdd y gofal a chefnogaeth a roddir i blant a theuluoedd. Gan ategu at arolwg cadarnhaol yn 2023, nododd AGC gynnydd mewn meysydd penodol a nodwyd i’w datblygu a chanfod tystiolaeth o gynnydd i ymgorffori ymarfer i sicrhau gwelliant parhaus.
“Rydym yn falch iawn gyda chanlyniad y gwiriad gwella hwn, sy’n cadarnhau’r cynnydd a wnaed ers yr arolwg diwethaf”, meddai Sarah Grant, Uwch Reolwr Gwasanaethau Plant.
“Er bod yr adroddiad blaenorol yn cydnabod bod ein gwasanaethau eisoes yn perfformio’n dda, roedd yn cyflwyno argymhellion defnyddiol i atgyfnerthu ein hymarfer ymhellach.
Dros y misoedd diwethaf, mae ein timau wedi bod yn gweithio gyda ffocws a gofal i ymgorffori’r gwelliannau hynny, ac mae’n galonogol gweld bod AGC wedi cydnabod effaith y gwaith. Mae ein blaenoriaeth yn aros yr un fath: darparu cefnogaeth ddiogel, ymatebol ac o ansawdd uchel i blant a theuluoedd. Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu ymroddiad ein staff a chryfder ein partneriaethau, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r daith gadarnhaol hon.”
Pwyntiau allweddol adroddiad AGC:
Arweinyddiaeth a llywodraethu wedi’i atgyfnerthu, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus.
“Mae arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol drwy arweinyddiaeth dosturiol, gyda phwyslais cryf ar ddatblygu’r gweithlu. Mae gweithlu angerddol a gefnogir yn dda er mwyn darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd”.
Sefydlogrwydd y gweithlu wedi gwella, gyda chynnydd o ran recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol medrus a llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth.
“Nododd 87% o’r ymatebwyr mewn arolwg i ymarferwyr y byddent yn argymell gweithio yn Sir y Fflint.”
Gwelliant o ran cymorth llety, cyfrannu at ostyngiad mewn digartrefedd ymysg pobl ifanc sy’n gadael gofal.
“Mae canolbwynt cryf ar wella llety wedi cyfrannu at ostyngiad diweddar mewn digartrefedd ymysg pobl ifanc sy’n gadael gofal.”
Gwasanaethau cymorth cynnar ac atal, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer plant niwroamrywiol.
“Mae canolbwynt strategol ar wella’r dulliau o nodi plant a theuluoedd a allai elwa o gefnogaeth yn gynt”.
“Mae ystod o ddewisiadau cymorth cynnar ac atal ar gael i gefnogi plant a theuluoedd, gan gynnwys plant sydd wedi derbyn diagnosis niwroamrywiaeth neu’n aros am asesiad.”
Canmolodd AGC yr ymagwedd gydweithredol gadarnhaol, gan nodi bod partneriaethau amlasiantaeth cryf wedi cyfrannu at gefnogaeth sy’n fwy cyfannol ac effeithiol ar gyfer plant.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r adroddiad yn nodi bod angen parhau â’r momentwm i ddatblygu ac ymgorffori gwelliant parhaus ymhellach gan fynd i’r afael â meysydd penodol i wella ac atgyfnerthu ymarfer a darpariaeth gwasanaeth.
“Rydym yn parhau i ymrwymo i wrando, dysgu a datblygu er mwyn i’n gwasanaethau barhau i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd yn Sir y Fflint. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn cydweithio gyda phwrpas a thrugaredd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae gwiriad gwella diweddaraf AGC yn dystiolaeth gref o’r cynnydd cyson ac ystyrlon a wnaed gennym fel gwasanaeth. Er bod yr arolwg diwethaf yn nodi rhai meysydd i’w datblygu, roedd hefyd yn cydnabod y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle.
Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi datblygu’r cryfderau hynny ac wedi ymateb yn rhagweithiol i bob argymhelliad.
Mae’r gwelliannau yr ydym wedi’u cyflawni eisoes yn gwneud gwir wahaniaeth i blant a theuluoedd, a dyna sydd bwysicaf. Mae ein staff wedi dangos ymroddiad a phroffesiynoldeb anhygoel, ac mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu eu hymrwymiad i welliant parhaus a gofal o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl a’n gwasanaethau i sicrhau ein bod yn aros yn ymatebol, gwydn ac yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion ein cymuned.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i weld adroddiad llawn AGC, cliciwch yma.