Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysbryd Cymunedol i’w weld wrth i ‘Feiciau yn eu Blodau’ Drawsnewid Canol Tref Bwcle
Published: 10/09/2025
Mae cynllun cyllid grant sy’n rhoi cyfle i sefydliadau lleol ymgeisio hyd at £10,000 i gyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau yng nghanol trefi ar draws Sir y Fflint yn boblogaidd.
Mae hanner y cyllid sydd ar gael ar gyfer 2025-26 sydd wedi cael ei sicrhau drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi cael ei ddyrannu i amrywiaeth o fentrau cyffrous dan arweiniad y gymuned. Ymysg y llwyddiannau amlwg hyd yn hyn mae prosiect ‘Beiciau yn eu Blodau’ sy’n cael ei ddarparu gan Refurbs Buckley. Yn sgil y digwyddiad cyflwynwyd creadigrwydd, cydweithio a lliw i ganol tref Bwcle.
Rhwng 11-16 Awst 2025, daeth preswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol lleol ynghyd i drawsnewid beiciau mewn i arddangosfeydd blodau hyfryd. Trwy gyfres o weithdai cyhoeddus, fe gydweithiodd pobl leol i roi bywyd newydd i hen feiciau fel darnau bywiog o gelfyddyd stryd, gan ddangos ysbryd cymunedol a gwerthoedd cynaliadwy Bwcle.
Uchafbwynt yr arddangosfa oedd Marchnad Haf ar ddydd Sadwrn 16 Awst, wedi’i gynnal gan Refurbs Buckley, lle daeth y gymuned ynghyd i ddathlu llwyddiant y prosiect a mwynhau stondinau, bwyd ac adloniant lleol.
Mae “Beiciau yn eu Blodau” wedi bod yn enghraifft wych o beth ydi Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau - annog creadigrwydd lleol a dod â phobl ynghyd i wneud ein trefi yn llefydd mwy bywiog i ymweld â nhw,” meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Yr Economi, Amgylchedd a Hinsawdd. “Mae hi wedi bod yn galonogol gweld beth mae cyllid grant yn gallu ei wneud i ganol tref i roi bywyd iddo gyda phrosiect mor unigryw.”
Mae’r cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yn dod â chymunedau ynghyd, yn ychwanegu bywiogrwydd i’n trefi, yn hyrwyddo lles ac yn gwella mannau cyhoeddus. Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan Wasanaeth Menter ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn rhan o ddarparu Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref 2025-26.
Mae’r cynllun grant dal i fod ar agor i ymgeiswyr newydd sydd awydd darparu digwyddiadau cyn diwedd mis Ionawr 2026 pan mae cyllid ar gael. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma neu e-bostiwch regeneration@flintshire.gov.uk