Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safbwynt Cyngor Sir y Fflint ar faneri
Published: 08/09/2025
Rydym ni’n deall pwysigrwydd balchder dinesig ac yn cydnabod bod pobl yn dymuno mynegi eu cefnogaeth drwy arddangos baneri fel sydd wedi bod yn digwydd ledled y wlad.
Yn ddiweddar, mae baneri wedi bod yn ymddangos ar bolion lampau, polion goleuadau stryd a strwythurau pontydd ledled y sir.
Am resymau diogelwch, rydym ni’n annog pobl i beidio â rhoi baneri ar eiddo cyhoeddus, na phaentio pethau arnynt, heb ganiatâd. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd ar y briffordd gyhoeddus, lle gallai baneri neu farciau dorri Deddf Priffyrdd a pheri risg diogelwch i ddefnyddwyr y ffyrdd, yn enwedig os ydyn nhw’n dod yn rhydd, yn rhwystro pobl rhag gweld neu os oes posibilrwydd iddyn nhw dynnu sylw gyrwyr a chynyddu'r risg o ddamweiniau.
Mae Deddf Priffyrdd 1980 yn nodi ei bod yn drosedd gosod eitemau ar strwythurau ar y briffordd heb ganiatâd yr awdurdod priffyrdd. Mae marciau ffordd yn cael eu rheoleiddio'n llym am resymau diogelwch, ac mae'n drosedd eu difwyno nhw dan y Ddeddf.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dave Hughes: “Rydym ni’n cydnabod bod rhai trigolion eisiau dangos eu balchder, ac mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy'n ddiogel ac yn barchus. Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, bydd yn rhaid i ni gyflawni ein dyletswyddau Priffyrdd cyfreithiol a dim ond baneri neu farciau heb eu hawdurdodi sy'n peri perygl posibl neu broblem o ran diogelwch i ddefnyddwyr y briffordd y byddwn ni’n eu tynnu. Pan ganfyddir bod y baneri neu’r marciau’n anniogel neu’n anghyfreithlon, gellir cael gwared arnynt.”
Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi pobl i fynegi balchder dinesig mewn ffyrdd sy'n ddiogel, parchus ac yn unol â’r gyfraith.