Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwirfoddolwyr yn cael eu canmol am Ddiwrnod Glanhau’r Glannau yng Nghei Connah

Published: 19/08/2025

Mae Tîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint, yn ogystal â ‘Cadwch Gymru'n Daclus’ wedi canmol gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser i helpu gyda glanhau cynefin morol Dociau Cei Connah - canolbwynt allweddol ym Mharc Arfordir Sir y Fflint.

Mae’r Parc Arfordir yn dathlu cynefin naturiol cyfoethog aber Afon Dyfrdwy ac Arfordir Sir y Fflint, ac mae’n chwarae rhan hynod arwyddocaol o ran sicrhau bod gan bobl fynediad i’r amgylchedd naturiol, at ddibenion hamdden ac i wella eu hiechyd a’u lles. 

Mae’n ymestyn ar draws arfordir Sir y Fflint o Saltney i Dalacre, gan gynnwys Porth y Gogledd a Garden City, Cei Connah a Shotton, y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Llannerch-y-môr a Mostyn, a Gronant.   Coastal Clean Up Volunteers.jpg

Daeth ‘Diwrnod Glanhau’r Glannau’ Cei Connah â gwirfoddolwyr ynghyd o Gadetiaid Môr Cei Connah, Wildfowlers Glannau Dyfrdwy, Earth Care Group a phreswylwyr lleol. Fe weithion nhw’n ddiwyd i glirio ardal o sbwriel, a mwynhau dysgu am y gwaith a wnaed hyd yma i wella’r ardal. 

Trefnwyd y digwyddiad gan Geidwad yr Arfordir, mewn partneriaeth gyda ‘Cadwch Gymru’n Daclus’, ac a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Dysgodd gwirfoddolwyr am y rhywogaethau y gellir eu gweld ger y dociau, ac fe gawson nhw luniaeth fel rhan o’r digwyddiad.

Mae Dociau Cei Connah yn lleoliad pwysig yn Sir y Fflint, yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr, seiclwyr a theuluoedd sy’n mwynhau cerdded a theithio ar olwynion ar hyd aber Glannau Dyfrdwy - cynefin arwyddocaol iawn ar gyfer bywyd morol ac adar mudol. 

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint:  Mae bywyd gwyllt Aber Afon Dyfrdwy yn cael ei werthfawrogi gan gymaint o bobl.  Mae gweld pobl yn frwdfrydig am ddiogelu a gwarchod yr amgylchedd yn ysbrydoledig.  Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu hamser a’u hymdrech wrth ddod ynghyd am y dydd, ac am eu holl waith caled yn glanhau’r ardal, er mwyn sicrhau y gall natur barhau i ffynnu.”

Fe wnaeth Parc Arfordir Sir y Fflint elwa o Gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o 2023 a thrwy gydol 2024, i wella’r ardal er budd preswylwyr, ac ymwelwyr i, Sir y Fflint.  Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn diogelu cyllid y Gronfa am flwyddyn ychwanegol i ddatblygu’r gwaith sy’n gysylltiedig â Pharc Arfordir Sir y fflint ymhellach, gan weld £238,652.40 o gyllid.

Meddai Kelly Eustace, OiC, Cadetiaid Môr Cei Connah: “Am ddigwyddiad gwych i fod yn rhan ohono. Dysgodd y cadetiaid gymaint am fywyd gwyllt a pham fod Aber Afon Dyfrdwy a’r dociau mor bwysig. Diolch i Mike Taylor, Ceidwad yr Arfordir o Dîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Sir y Fflint am drefnu, ac i Cadwch Gymru’n Daclus am eu cyfraniad o becynnau casglu sbwriel a Chyfarpar Diogelu Personol i’w cadw. Fe wnaethon ni fwynhau bod yn ‘Warcheidwaid y Glannau’ am y dydd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r pecynnau eto i gadw’r ardal yn ddiogel ar gyfer bywyd gwyllt, ac yn edrych yn dda ar gyfer pobl sy’n ymweld â’r dociau.

Ychwanegodd Carolyne Prew, swyddog prosiect Sir y Fflint o Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae’n wych gweithio mewn partneriaeth, a gweld drosoch eich hun sut mae’r pecynnau casglu sbwriel a gyfrannwyd wedi cael eu defnyddio i wneud Dociau Cei Connah yn lle gwell i bawb. Mewn undod mae nerth. Diolch i bawb a ddaeth i wirfoddoli eu hamser.”

Gall unrhyw sefydliad â diddordeb mewn digwyddiadau personol i fod yn ‘Warcheidwaid y Glannau’ am y dydd gysylltu â: countryside@flintshire.gov.uk

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Barc Arfordir Sir y Fflint.